Mater - penderfyniadau
Anti-Fraud and Corruption Strategy and Fraud Response Plan
15/04/2020 - Anti-Fraud and Corruption Strategy and Fraud Response Plan
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y Strategaeth Gwrth-dwyll a Llygredigaeth ac adroddiad y Cynllun Ymateb i Dwyll a ysgrifennwyd er lles gweithwyr, Aelodau, y cyhoedd, sefydliadau a busnesau sy’n delio gyda'r Cyngor a ddisgwylir i weithredu ag uniondeb hefyd.
Amlinellodd y Strategaeth ymrwymiad y Cyngor i atal a chanfod twyll a’i bolisi ‘dim goddefgarwch’ tuag at weithredoedd twyll a llygredigaeth tebyg.
Roedd yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd ar 27 Tachwedd lle cafodd ei gefnogi.
Cynigiodd y Cynghorydd Heesom gymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Hardcastle.
Ar ôl eu rhoi i bleidlais, cymeradwywyd yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
(a) Y dylid cymeradwyo'r Strategaeth Gwrth-dwyll a Llygredigaeth ddiwygiedig; ac
(b) Y dylid cymeradwyo’r Cynllun Ymateb i Dwyll diwygiedig.