Mater - penderfyniadau
Revised Environmental Enforcement Policy
17/04/2020 - Review of the Environmental Enforcement Policy
Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad ar Adolygu Polisi Gorfodaeth Amgylcheddol, oedd yn darparu polisi a adolygwyd i adlewyrchu’r gwahanol newidiadau, i ddeddfwriaeth a threfniadau gweithredu’r portffolio, ers i’r polisi gael ei gymeradwyo yn 2013.
Roedd prif feysydd ffocws y polisi’n cynnwys:
· Gollwng sbwriel;
· Rheoli gwastraff – yn cynnwys gorfodaeth gwastraff ochr ffordd a defnyddio cynwysyddion casglu gwastraff yn briodol a dychwelyd biniau ar ôl i’r lorïau casglu sbwriel alw;
· Gwaredu gwastraff masnachol;
· Tipio anghyfreithlon;
· Graffiti;
· Gosod posteri heb ganiatâd;
· Gorchmynion rheoli c?n;
· C?n crwydr;
· Safleoedd sy’n niweidiol i amwynder lleol ardal;
· Hysbysiadau iechyd cyhoeddus statudol;
· Ardaloedd rheoli yfed;
· Cerbydau wedi’u gadael;
· Trolis archfarchnadoedd wedi’u gadael;
· Rhwystr ar y briffordd gyhoeddus a rhwydwaith hawl tramwy;
· Mwd neu rwystr arall ar y briffordd gyhoeddus;
· Troseddau parcio ar y stryd ac oddi ar y stryd.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r newidiadau i Bolisi Gorfodaeth Amgylchedd y Cyngor.