Mater - penderfyniadau

Capital Programme 2020/21 – 2022/23

15/04/2020 - Capital Programme 2020/21 – 2022/23

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad y Rhaglen Gyfalaf 2020/21 - 2022/23 a oedd yn trafod buddsoddiadau mewn asedau ar gyfer y tymor hir i alluogi darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel gyda gwerth am arian.

 

            Mae asedau’n cynnwys adeiladau megis ysgolion a chartrefi gofal, isadeiledd megis priffyrdd, rhwydweithiau TG a gorsafoedd trosglwyddo gwastraff, ac asedau nad ydynt yn perthyn i'r Cyngor megis gwaith i wella ac addasu cartrefi'r sector preifat. Mae’r buddsoddiadau cyfalaf arfaethedig a amlinellir yn yr adroddiad yn cyd-fynd yn agos â chynlluniau gwasanaethau a Chynllun y Cyngor.

 

            Mae gan y Cyngor adnoddau cyfalaf cyfyngedig o du Llywodraeth Cymru i gefnogi blaenoriaethau, anghenion ac atebolrwyddau’r Cyngor.Fodd bynnag, mae ganddo bwerau i ariannu cynlluniau cyfalaf drwy fenthyg; roedd hyn yn gynllun dros dro, ac roedd cost ac ad-daliad unrhyw fenthyciad yn cael ei godi ar gyllideb refeniw’r Cyngor.Ystyriwyd cynlluniau a oedd yn cael eu hariannu drwy fenthyca yn ofalus oherwydd effeithiau hirdymor ar gyllideb refeniw’r Cyngor.

 

            Rhannwyd adroddiad Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor i dri adran:

 

1.    Statudol / Rheoleiddiol – dyraniadau i fodloni gwaith rheoleiddiol a statudol;

2.    Asedau wedi eu Cadw – dyraniadau i ariannu gwaith seilwaith angenrheidiol i sicrhau parhad gwasanaeth a busnes; a

3.    Buddsoddiad – dyraniadau i ariannu’r gwaith angenrheidiol i ailfodelu gwasanaethau i gyflwyno’r arbedion effeithlonrwydd yr amlinellwyd yn y cynllun busnes Portffolio a buddsoddi mewn gwasanaethau fel yr amlinellwyd yng Nghynllun y Cyngor.

 

Darparodd y Prif Swyddog fanylion o bob tabl o fewn yr adroddiad a oedd yn cael eu cefnogi gan esboniadau ar bob un.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd David Healey, cadarnhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod y gwaith ar Ysgol Uwchradd Castell Alun ar gyfer estyniad tri llawr, ac nid dau, fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Roberts argymhellion yr adroddiad gan gyfeirio at y cyfleoedd cyffrous yr amlinellwyd yn y Rhaglen Gyfalaf.Dywedodd bod hyn yn dangos bod y Cyngor yn bod yn uchelgeisiol ac yn dangos beth oedd amcanion y Cyngor.Gwnaeth sylw yn benodol at brosiect canolfan ddydd oedolion Hwb Cyfle, a oedd wedi agor yn ddiweddar yn Queensferry, buddsoddiad yng Nghartref Preswyl Marleyfield ym Mwcle, a’r cynigion ar gyfer sawl ysgol ar draws y sir.

 

Eiliodd y Cynghorydd Banks argymhellion yr adroddiad, ac roedd yn eu croesawu, cynlluniau llai yn benodol megis rhoi wyneb newydd ar gae bob tywydd Ysgol Uwchradd Elfed, a chynllun Menter Bwyd Sir y Fflint.

 

Roedd y Cynghorydd Peers yn croesawu’r adroddiad hefyd, sy'n nodi cynlluniau ar draws y sir.Fe wnaeth sylw ar adnoddau cyfalaf cyfyngedig y Cyngor, ac roedd yn teimlo bod angen tynnu sylw LlC at hyn.O ran gwaith adeiladu ysgolion, gofynnodd a oedd y gyllideb £1.5 miliwn ar gyfer toiledau mewn ysgolion yn rhan o'r rhaglen 15 mlynedd oherwydd bod yr adroddiad yn nodi £100 mil y flwyddyn.O ran gwelliannau i Iard Safonol y Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff, roedd yn gobeithio y gellir arbed arian ar y cynllun hwn, gan y penderfynwyd nad oedd angen y ffordd newydd a nodwyd yn wreiddiol. 

 

O ran y cyfleuster archifau ar y cyd, gofynnwyd a oedd perchnogaeth ar sail 50:50 gyda Sir Ddinbych oherwydd nid oedd y cyllid yn gytbwys.O ran campws Neuadd y Dref, gofynnodd am fanylion ar beth oedd y potensial enfawr ar gyfer y safle, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, oherwydd nid oedd manylion yn adran derbyniadau cyfalaf yr adroddiad.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod yr angen ar gyfer Cyfalaf ychwanegol yn cael ei drafod yn rheolaidd gyda LlC. O ran toiledau ysgolion, byddai angen trafodaeth heriol ar sut i fynd i’r afael â’r gwaith sydd angen ei wneud ar ysgolion.O ran y cyfleuster archifau ar y cyd – byddai'r datblygiad ar dir Sir y Fflint ac ni fyddai trefniadau cyllid yn gymesur i faint y Cynghorau, eu cyllidebau a'r boblogaeth leol. Ni fyddai Derbyniadau Cyfalaf yn dangos hyd yma ar gyfer Neuadd y Dref oherwydd ni chytunwyd ar uwchgynllun tymor hir eto.

 

Esboniodd y Prif Swyddog bod gwaith dylunio yn parhau ar y gwelliannau i Iard Safonol y Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff a byddai unrhyw arbedion sy’n cael eu cyflawni yn mynd yn ôl i’r Rhaglen Gyfalaf i’w ddefnyddio ar gyfer cynlluniau eraill. O ran toiledau, byddai rhai cynlluniau’n cael eu trin drwy raglen moderneiddio ysgolion neu’n cael eu hymgorffori o fewn rhaglenni ailwampio eraill. 

 

Roedd y Cynghorydd Richard Jones yn croesawu’r gwaith ar Gastell Alun a Chartref Preswyl Marleyfield. O ran ysgolion, gofynnodd a oedd y cynlluniau yn y Strategaeth yn rhan o strategaeth ehangach i ddiddymu ystafelloedd dosbarth symudol. 

 

O ran benthyca ddarbodus ar gyfer y Fargen Dwf, gofynnodd beth fyddai cost y fenthyca, a theimlodd bod hyn yn rhywbeth y gellir ei drafod yng nghyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn y dyfodol. Cynghorodd y Prif Weithredwr o ran y Fargen Dwf, y byddai’n annhebygol bod benthyca darbodus ar gael nes y blynyddoedd i ddod, a byddai'r manylion yn cael eu trafod yn llawn maes o law.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Jones ar gost benthyca ddarbodus, esboniodd y Rheolwr Ariannol bod y manylion llawn wedi cael eu darparu yn adran Goblygiadau o Ran Adnoddau'r adroddiad.

 

Croesawodd y Cynghorydd Palmer yr adroddiad gan wneud sylw ar yr effaith a gafodd y rhaglenni cyfalaf ar gymunedau, megis ail-agor stryd fawr Treffynnon a oedd wedi cael effaith gadarnhaol.

 

Diolchodd y Cynghorydd Rush y Cyngor am y buddsoddiad a wnaed yn Ysgol Glan Aber ym Magillt, a fydd o fudd mawr i bawb.

 

Gofynnodd y Cynghorydd McGuill pwy oedd yn arwain ar Fenter Bwyd Sir y Fflint a lle mae lleoliadau’r hwb.Esboniodd y Prif Swyddog bod y cynllun yn un ar y cyd gyda Chyngor Sir y Fflint, Tai Clwyd Alyn a Can Cook, a bod yr canolbwyntiau wedi eu lleoli ar draws Sir y Fflint, gyda rhai yng Nghartrefi Gofal Clwyd Alyn. Roedd yn Swyddog arweiniol ar gyfer y cynllun yn Sir y Fflint.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Carver ar yr allbwn ynni yn hen safleoedd tirlenwi ym Mwcle, dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) y byddai’n darparu manylion i’r Aelodau.

 

Diolchodd y Cynghorydd Dunbar i swyddogion ac Aelodau’r Cabinet  Strydwedd a Chludiant ar gyfer y datrysiad cyflym i’r maes parcio ym Mharc Gwepra. Mynegodd y Cynghorydd Dunbobbin ei ddiolch ar gyfer y gwaith moderneiddio a wnaed yn Ysgol Uwchradd Cei Connah.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Ellis am eglurhad ar y geiriad canlynol mewn perthynas â Theatr Clwyd ‘efallai bydd angen ystyried lefelau isel a chynaliadwy o fenthyca tymor hir i sicrhau bod y cynllun yn cael ei gyflwyno, ond bydd angen amlinellu dewisiadau ar gyfer refeniw pan mae Llywodraeth Cymru yn cadarnhau eu lefel o gefnogaeth'. Esboniodd y Prif Weithredwr bod hyn yn brosiect gydag amcangyfrif presennol o £35 miliwn; a bu cais ffurfiol am £25 miliwn gan LC, a £5 miliwn gan Gyngor Celfyddydau Cymru.Roedd hynny’n gadael amcangyfrif o £5 miliwn.Roedd symiau sylweddol o roddion elusennol a oedd ar gael i helpu gyda lleihau’r gost i’r Cyngor.

 

Ar ôl eu rhoi i bleidlais, cymeradwywyd yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y dyraniadau a chynlluniau yn Nhabl 3 o'r adroddiad ar gyfer rhannau Statudol / Rheoleiddiol ac Asedau Wrth Gefn y Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 2020/21 - 2022/23 yn cael eu cymeradwyo;

 

 (b)      Bod y cynlluniau wedi'u cynnwys yn Nhabl 4 ar gyfer adran Buddsoddi y Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 2020/21 - 2022/23 yn cael eu cymeradwyo;

 

 (c)       Dylid nodi bod y diffyg mewn cyllid i ariannu ar hyn o bryd yn y broses gymeradwyo  cynlluniau yn 2020/21 a 2021/22 yn hyblyg. Bydd opsiynau gan gynnwys cyfuniad o dderbyniadau cyfalaf yn y dyfodol, grantiau eraill (os ydynt ar gael), benthyca darbodus neu gynlluniau fesul cam dros nifer o flynyddoedd yn cael eu hystyried yn ystod 2020/21, ac yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau Rhaglen Gyfalaf yn y dyfodol.