Mater - penderfyniadau

Flintshire in Business Update

05/08/2020 - Flintshire in Business Update

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) yr adroddiad a oedd yn crynhoi gwaith y tîm datblygu busnes ac yn rhoi diweddariad ar raglen Sir y Fflint Mewn mewn Busnes ar gyfer 2019. Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi ar beth fyddai’r gwasanaeth yn canolbwyntio ei waith yn 2020 a thu hwnt mewn ymateb i newidiadau i'r economi ac i flaenoriaethau corfforaethol.

 

Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth - Menter ac Adfywio mai prif swyddogaeth y gwasanaeth oedd ymgysylltu â busnes a oedd yn gweithredu fel platfform ar gyfer adeiladu gweithgareddau eraill gan y gwasanaeth a darparwyr eraill.  Roedd hon yn rôl unigryw na ddarparwyd mewn man arall ac roedd yr adborth gan randdeiliaid a chwsmeriaid busnes wedi bod yn gadarnhaol dros ben o ran y gwasanaeth a gawsant gan y tîm.

 

Un o'r rhaglenni blaenllaw a ddarparwyd gan y gwasanaeth oedd Sir y Fflint Mewn Busnes (Wythnos Fusnes Sir y Fflint gynt). Roedd hyn wedi gweithredu am 13 blynedd ac wedi'i ariannu'n llawn trwy nawdd gan y gymuned fusnes. Yn 2019 penderfynwyd rhoi’r gorau i weithredu’r rhaglen fel cyfres o ddigwyddiadau wythnos o hyd gan y teimlwyd bod hyn yn ei gwneud yn anoddach i fusnesau fynychu pob un o’r digwyddiadau. Yn lle hynny, cynigiwyd lledaenu’r digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn. Manylwyd ar y digwyddiadau a gynhwyswyd yn y rhaglen ar gyfer 2019 yn yr adroddiad. 

 

Tynnodd y Rheolwr Gwasanaeth - Menter ac Adfywio sylw'r Aelodau at gyfeiriad strategol y gwasanaeth a sut y byddai'r gwasanaeth yn ailffocysu ei waith yn 2020/21 i adlewyrchu'r byd sy'n newid i fusnesau yn y Sir, fel y manylwyd yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Cynghorydd Paul Shotton ei bod yn bwysig i’r Aelodau gydnabod gwaith y tîm a llongyfarchodd y tîm ar eu gwaith a’r rhwydweithio sy’n cael ei wneud ledled Sir y Fflint.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Ted Palmer am ragor o wybodaeth am y cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru (LlC) y byddai 7 tref ledled Gogledd Cymru yn elwa o Wi-Fi am ddim. Cytunodd y Rheolwr Menter ac Adfywio i ddarparu mwy o wybodaeth am hyn yn dilyn y cyfarfod.

 

Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd Patrick Heesom ynghylch y diffyg buddsoddi yn Nociau Mostyn, sicrhaodd y Prif Swyddog y Cynghorydd Heesom nad oedd Dociau Mostyn yn cael eu hanghofio ac y byddai’r adran o'r adroddiad yn cyfeirio at y llif gwaith i wella'r cydlyniad a chydgysylltu gweithgaredd cymorth busnes gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn cynorthwyo gyda dull mwy cydgysylltiedig.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dave Wisinger ar faint o unedau diwydiannol y cyngor a feddiannwyd, nododd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) fod tuag at ben uchaf 80% o unedau diwydiannol yn cael eu meddiannu. Esboniodd fod adolygiad o ystadau diwydiannol i fod i gael ei gynnal er mwyn sefydlu pa rai y byddai angen eu hailddatblygu yn y dyfodol. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi'r cynnydd a wnaed o ran darparu cymorth busnes yn Sir y Fflint a'r blaenoriaethau a adnewyddwyd ar gyfer y dyfodol.