Mater - penderfyniadau
Welfare Reform Update
31/03/2020 - Welfare Reform Update
Cyflwynodd y Rheolwr Budd-daliadau ddiweddariad ar effaith roedd ‘Gwasanaeth Llawn’ Credyd Cynhwysol a diwygiadau lles eraill yn ei chael ar breswylwyr Sir y Fflint a’r gwaith a oedd yn cael ei wneud i liniaru hyn a chefnogi aelwydydd.
Yn ôl ystadegau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau hyd at Awst 2019, roedd 21,591 o bobl oedd yn derbyn Budd-Dal Tai yng Nghymru wedi gweld gostyngiad yn eu dyfarniad wythnosol gydag 80% sy’n derbyn Budd-Dal Tai yng Nghymru yn tanddefnyddio un ystafell yn eu heiddo. Roedd 136 o dai yn Sir Y Fflint yn destun 25% o ostyngiad yn eu taliad budd-dal tai wythnosol a 474 o dai yn destun 14% o ostyngiad yn eu taliad budd-dal tai wythnosol. Hyd at fis Rhagfyr 2019, roedd 154 o gwsmeriaid Credyd Cynhwysol yr effeithir arnynt gan y treth ystafell wely yn derbyn cefnogaeth tuag at eu rhent drwy Dâl Disgresiwn at Gostau Tai (DHP).
Roedd y Rheolwr Budd-daliadau wedi rhoi gwybodaeth fanwl ar y meysydd canlynol, fel y manylwyd o fewn yr adroddiad:-
· Cymorth i Hawlio Gwasanaeth;
· ‘Ymfudo a Reolir’ Credyd Cynhwysol;
· Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor;
· Tîm Diwygiad Lles;
· Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai; a
· Goblygiadau Ariannol
Roedd y Cynghorydd Paul Shotton yn mynegi pryder am y nifer o hawlwyr oedd yn gweithio, yr oedd yn teimlo oedd o ganlyniad i economi cyflog isel. Hefyd roedd yn mynegi pryderon am yr amseroedd aros i geisiadau gael eu prosesu yr oedd yn dweud oedd yn annigonol. Hefyd, soniodd am y fenter ‘Gallu Coginio’ yr oedd yn teimlo oedd yn gadarnhaol i gynorthwyo pobl mewn tlodi. Dywedodd y Rheolwr Budd-daliadau fod y fenter ‘Can Cook’ yn rhan o Strategaeth ehangach i fynd i’r afael â thlodi bwyd ar draws Sir y Fflint.
Roedd y Cynghorydd Patrick Heesom yn cefnogi’r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Shotton gan ddweud hefyd bod Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai yn rhoi cymhorthdal ar gyfer cyflogau isel. Hefyd gofyn os gellir darparu gwybodaeth ar lefel ceisiadau Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai gan ardaloedd o fewn Sir y Fflint. Roedd y Rheolwr Budd-daliadau yn cytuno i ddarparu’r wybodaeth hon ar ôl ymarfer mapio ar leoliadau.
Roedd y Cynghorydd David Wisinger yn mynegi pryderon am bobl ifanc yn gadael gofal ac yn gofyn a oedd yna unrhyw gefnogaeth ychwanegol iddynt dalu eu rhent. Dywedodd y Rheolwr Budd-daliadau fod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cynnal adolygiad o Gyfraddau Lwfans Tai Lleol ac arhosir am ganlyniad yr adolygiad. Gobeithio y byddai’r adolygiad yn cynorthwyo landlordiaid i ddarparu cymorth i bobl o dan 35 oed.
Wrth gynnig yr argymhellion o fewn yr adroddiad, roedd y Cynghorydd Heesom yn canmol y swyddogion am eu gwaith. Roedd y Cynghorydd Shotton yn eilio.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad; a
(b) Cefnogi’r gwaith parhaus i reoli’r effaith mae Diwygiadau Lles yn ei chael a bydd yn parhau i’w chael ar aelwydydd mwyaf diamddiffyn Sir y Fflint.