Mater - penderfyniadau

21st Century Schools Capital Programme

06/01/2020 - 21st Century Schools Capital Programme

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts adroddiad ar Raglen Gyfalaf Ysgolion yr 21ain Ganrif, a oedd yn rhoi cefndir i gynllun strategol tymor canolig y Cyngor ar gyfer rheoli a gwella ystâd yr ysgol a chyflwyniad Rhaglen Strategol Amlinellol y Cyngor i Lywodraeth Cymru ar gyfer rhaglen ariannu Ysgolion yr 21ain Ganrif.

 

            Ers cymeradwyo’r Rhaglen Strategol Amlinellol ar ddechrau 2018, roedd rhagor o waith manwl wedi’i wneud i ddatblygu a phrisio prosiectau unigol gan fonitro’r rhaglen a nifer y disgyblion ar draws yr ysgolion. Roedd y Cabinet wedi cymeradwyo penderfyniadau cynnar ar rai agweddau o’r rhaglen e.e. gorffen ailfodelu Ysgol Uwchradd Cei Connah a pheidio ag uno Ysgol Licswm ac Ysgol Brynffordd.

 

            Roedd Llywodraeth Cymru hefyd wedi gwneud newidiadau i’r cyfraddau ymyrraeth o blaid awdurdodau lleol ac roedd hefyd wedi sicrhau argaeledd ffrydiau ariannu newydd megis Grantiau Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg a Gofal Plant, ar gyfraddau ymyrraeth o 100%, ac roedd y Cyngor wedi elwa o hynny.  Roedd gan yr holl ffactorau hyn, ochr yn ochr â datblygiad Cynllun Datblygu Lleol y Cyngor, effeithiau posibl ar gynnwys a chost posibl y rhaglen Band B derfynol.

 

            Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r newidiadau arfaethedig i’r rhaglen derfynol ac yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer sawl mater allweddol.

 

            Roedd astudiaethau ymarferoldeb wedi dangos bod cyfle i greu model safle unigol ar gyfer addysg gynradd ac uwchradd yn ardal Mynydd Isa ar safle Ysgol Uwchradd Argoed. Byddai’n gyfle i ailddefnyddio un o’r adeiladau, a oedd mewn cyflwr da, i sefydlu darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer ardal Bwcle / Mynydd Isa a oedd yn cefnogi amcanion y Cyngor yn ei Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg. Yn ogystal, darparwyd cyllid Band B a buddsoddiadau eraill gan LlC er mwyn cyflawni gwelliannau yn Ysgol Glanrafon, Yr Wyddgrug; Glannau Dyfdrwy yn Shotton ac ailwampio Ysgol Croes Atti yn Y Fflint. Roedd hyn i gyd yn dangos ymrwymiad y Cyngor i strategaeth Llywodraeth Cymru i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg a chwarae ei ran wrth geisio cyflawni’r targed cenedlaethol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

 

            Byddai’r cynnig hefyd yn caniatáu ar gyfer buddsoddiad sylweddol yn Ysgol Uwchradd Elfed ym Mwcle a oedd, gyda nifer gynyddol o ddisgyblion a pherfformiad addysgol cryf, wedi  dangos ei bod yn ysgol gynaliadwy a llwyddiannus ac y dylai barhau i gael bod yn ysgol ar wahân.

 

            Roedd yr heriau’n fwy difrifol yn ardal Saltney lle’r oedd y lleihad yn nifer y disgyblion yn Ysgol Uwchradd  Dewi Sant wedi ysgogi’r cynnig i ystyried peidio â symud ymlaen â’r model 3-16 fel yr amlinellwyd yn y Rhaglen Strategol Amlinellol. Roedd yn bwysig bod adolygiad manylach yn cael ei gynnal o ddarpariaeth cynradd ac uwchradd yn ardal Saltney a Brychdyn i sicrhau bod y buddsoddiad cyfalaf a gynlluniwyd yn darparu’r modelau addysg mwyaf cynaliadwy ar gyfer yr ardal.

 

            Yn ychwanegol, roedd y gyllideb wreiddiol o £85m yn annigonol er mwyn cyflawni’r holl flaenoriaethau o fewn y Rhaglen Strategol Amlinellol, a gyda’r datblygiad posibl o safleoedd tai strategol newydd, gallai roi dwy o ysgolion uwchradd y Cyngor dan bwysau o ran galw am leoedd. Roedd yn bwysig bod y Cyngor yn parhau i ddiwygio ac alinio ei raglen fuddsoddi i sicrhau bod ysgolion yn addas i’r diben ac yn gallu ateb y galw lle’r oedd angen lleol parhaus. Roedd dadl gymhellol i gynyddu’r gyllideb i £103m fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

            Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod ef a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol yn fodlon â’r cyngor a roddwyd gan swyddogion ar y risg / budd ariannol a fforddiadwyedd y rhaglen gyfan a gyflwynwyd.

 

            Croesawodd yr Aelodau yr adroddiad a’r lefelau buddsoddi a gynigiwyd er budd y dysgwyr.

 

            PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r canlynol:

  • Rhaglen Band B ariannol ddiwygiedig a chyflwyniad i Lywodraeth Cymru i wneud cais ffurfiol am amrywiad ariannol i’r Rhaglen Strategol Amlinellol;
  • Ymestyn yr adolygiad o ddarpariaeth addysg uwchradd yn Saltney i gynnwys Brychdyn; a

·         Rhoi ystyriaeth i ddiwygio nifer y prosiectau MBC o fewn y rhaglen a darparu mandad i swyddogion ar gyfer trafodaethau pellach gyda Llywodraeth Cymru.