Mater - penderfyniadau

Medium Term Financial Strategy: Council Fund Revenue Budget 2020/21

11/02/2020 - Medium Term Financial Strategy: Council Fund Revenue Budget 2020/21

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad am y rhagolwg ariannol presennol ar gyfer 2020/21 ynghyd ag arbedion effeithlonrwydd a phwysau cost ar draws portffolios. Amlygwyd cynigion penodol ar gyfer y portffolio i’w hadolygu. Ers yr adroddiad i’r Cabinet ym mis Ebrill, roedd y ‘bwlch’ cyffredinol amcanol yng ngofynion ariannu’r Cyngor ar gyfer 2020/21 wedi cynyddu £2.854m i £16.174m.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi’r sefyllfa genedlaethol a dewisiadau a oedd ar gael er mwyn i’r Cyngor sicrhau cyllideb gytbwys. Roedd arbedion effeithlonrwydd arfaethedig ar gyfer pob portffolio wedi’u rhannu gydag Aelodau mewn gweithdy yn ystod yr haf. Ers hynny, nid oedd dewisiadau eraill wedi’u cyflwyno. Roedd y sefyllfa grynodeb gyffredinol hyd yma yn dangos cyfraniad sylweddol o £8-8.5m tuag at y bwlch yn y gyllideb a oedd yn cynnwys arbedion effeithlonrwydd ac incwm corfforaethol a phortffolio (£1.784m), incwm sy’n deillio o ddarpar gynnydd 5% mewn Treth y Cyngor (£4.38m) a’r swm sydd ar gael i’r Cyngor o adolygiad Actiwaraidd a oedd bron â’i gwblhau (£2m). Y dewisiadau eraill – yn dibynnu ar ganlyniad cyllideb Llywodraeth Cymru (LlC) – oedd adolygiad pellach o gyfraniadau cyflogwr y Gronfa Bensiynau, rhannu pwysau cost gydag ysgolion a chynnydd Treth y Cyngor uwchlaw’r rhagdybiaeth weithredol.  Roedd y Setliad Dros Dro i gael ei gyhoeddi ar 16 Rhagfyr, gyda’r Setliad Terfynol wedi’i gadarnhau ar gyfer 25 Chwefror; o bosibl ar ôl i’r Cyngor osod ei gyllideb derfynol ar gyfer 2020/21.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Peers a oedd adolygiad o wasanaethau ymhlith y datrysiadau eraill oedd ar gael i fantoli’r gyllideb. Nododd fod y darpar gynnydd 5% mewn Treth y Cyngor angen Setliad gwell o lawer, a dywedodd bod angen dewisiadau amgen i osgoi sefyllfa debyg i’r sefyllfa ym mhroses y gyllideb ar gyfer 2019/20.  Soniodd hefyd am yr incwm amcanol o feysydd parcio, lle roedd rhai ardaloedd wedi rhagori ar lefelau amcanol ac roedd eraill yn is na thargedau’n gyson. Ychwanegodd na ddylid cyfrif taliadau gwastraff gardd fel arbediad effeithlonrwydd, oherwydd roedd costau yn cael eu trosglwyddo i breswylwyr.

 

Gan ymateb, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod yr holl arbedion effeithlonrwydd gwasanaeth wedi’u cynnwys yng nghynlluniau busnes portffolios ac y byddai’n anodd gweithredu unrhyw beth newydd ar y cam hwn. O ran y cynnydd yn Nhreth y Cyngor, er disgwyliwyd Setliad cadarnhaol gan LlC, nid oedd yn glir a fyddai’n ddigonol. Byddai rhagor o fanylion am yr opsiynau sydd ar gael yn cael eu hadrodd i’r Cyngor yn ddiweddarach yn y dydd. O ran y disgownt person sengl ar gyfer Treth y Cyngor, disgwyliwyd y byddai adolygiad a oedd ar y gweill yn cynhyrchu incwm ychwanegol yn ystod 2019/20 a 2020/21.  Roedd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yn cydnabod yr angen i wahaniaethu rhwng arbedion effeithlonrwydd cost a chynhyrchu incwm.

 

Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas fod penderfyniad wedi’i wneud ar ôl cyflawni arbedion effeithlonrwydd, i beidio â thorri rhagor o wasanaethau i osgoi’r effaith ar breswylwyr.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am eglurhad o ran cyfraniadau o Newid Sefydliadol a’r effeithlonrwydd o incwm o waith allanol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) fod cydnabod anhawster canfod rhagor o arbedion effeithlonrwydd, y tu hwn i’r rhai a nodwyd eisoes, wedi arwain at newid ffyrdd o weithio i gynhyrchu incwm.  Byddai rhagor o wybodaeth yn cael ei rhannu yn ddiweddarach am archwilio cyfleoedd o’r fath mewn gwasanaethau drwy newidiadau diwylliant neu Fodelau Darparu Amgen. O ran incwm o waith allanol, darparodd y Prif Swyddog eglurhad am y manteision o’r ddarpariaeth fflyd allanol drwy un contractwr, gan arwain at gerbydau mwy newydd a llai o gostau cynnal a chadw.

 

Gan ateb cwestiwn y Cadeirydd, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y byddai’r dull cynhyrchu incwm yn cael ei ddefnyddio ar draws holl wasanaethau’r Cyngor.

 

Dywedodd y Cynghorydd Banks mai’r nod oedd diogelu gwasanaethau craidd ac nad oedd Aelodau wedi cyflwyno awgrymiadau am unrhyw arbedion effeithlonrwydd eraill. Atgoffodd bawb nad oedd y casgliad gwastraff gardd yn wasanaeth gorfodol, a bod y taliadau yn cynnig gwerth am arian i breswylwyr.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Shotton gymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Dunbobbin.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r cynigion am arbedion effeithlonrwydd Strydwedd a Chludiant a Chynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi ar gyfer 2020/21; a

 

(b)       Cymeradwyo’r pwysau cost Strydwedd a Chludiant a Chynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi a argymhellwyd i’w cynnwys yn y gyllideb ar gyfer 2020/21.