Mater - penderfyniadau
Out of County Placements report
21/09/2020 - Innovation to reduce reliance on out of county placements
Cyflwynodd yr Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu adroddiad i adolygu’r gwaith i leihau dibyniaeth ar ofal preswyl hirdymor i blant sy'n derbyn gofal. Eglurodd bod yr adroddiad wedi darparu trosolwg ar yr arloesi sy’n cael ei yrru ymlaen i sicrhau newid trawsnewidol wrth ddarparu Strategaeth Lleoliad a Chymorth y Gwasanaeth. Cafdd y gwaith ei grynhoi yn atodiad i’r adroddiad.
Dywedodd yr Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu heb fuddsoddiad mewn arloesi a dulliau newydd i’r ddarpariaeth gwasanaeth, bydd y nifer o blant sydd eisiau lleoliadau preswyl ac Asiantaeth Faethu Annibynnol yn parhau i gynyddu ar gyfradd anghynaladwy gyda chanlyniadau ariannol annailadwy. Tynnodd sylw at y gwaith a’r mentrau, fel y nodwyd yn atodiad yr adroddiad, i effeithio newid. Gan gyfeirio at y Model Mockingbird i faethu, cyflwynodd y Swyddog Marchnata a Recriwtio a’i gwahodd i roi trosolwg a chyflwyniad ar y Model Mockingbird. Pwyntiau allweddol y cyflwyniad oedd:
- heriau
- rhagolwg 7 mlynedd
- cadw plant mewn gofal Awdurdod Lleol
- Cadw gofalwyr
- Lleoliadau y tu allan i’r sir
- atal methiannau mewn lleoliadau.
- themâu o gyfarfodydd ymyrraeth
- arbedion ar sail isafswm targedau
- sefydlogi dyfodol lleoliadau y tu allan i’r sir
Eglurodd yr Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu mai’r uchelgais oedd datblygu hyd at 5 canolfan dros gyfnod o 3 blynedd i gefnogi 80 o blant. Mae benthyciad dim llog o £1.1m ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Cynllun a roedd rhaid ei ad-dalu dros gyfnod o 7 mlynedd.
Roedd yr Aelodau o blaid y model Mockingbird a mynegwyd diolch i’r Prif Swyddog a’i dîm am eu gwaith i leihau dibyniaeth ar leoliadau y tu allan i’r sir.
Cynigiodd y Cynghorydd Martin White yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD
Bod y rhaglen arloesi wedi’i anelu at leihau dibyniaeth ar leoliadau y tu allan i'r sir yn cael ei nodi.