Mater - penderfyniadau

Rolling Review of the Members Code of Conduct

14/10/2020 - Review of Streetlighting Policy

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad i geisio argymhelliad i’r Cabinet i gymeradwyo’r Polisi Goleuadau Stryd diwygiedig.

                       

Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir a dywedodd bod y Polisi Goleuadau Stryd presennol wedi’i gymeradwyo yn 2015, fodd bynnag, bu datblygiadau sylweddol o ran dewisiadau rhad-ar-ynni a gwelliannau o ran effeithiolrwydd offer trydanol a bellach roedd angen adolygu’r polisi.  Gwahoddodd y Prif Swyddog y Rheolwr Gweithredol y Gogledd a Goleuadau Stryd i gyflwyno’r adroddiad.   

 

Rhoddodd y Rheolwr Gweithredol y Gogledd a Goleuadau Stryd adroddiad ar ystyriaethau allweddol, fel y manylwyd yn yr adroddiad, a thynnodd sylw i’r prif newidiadau i’r Polisi yn ymwneud ag archwiliadau min nos, archwiliadau a drefnwyd a phrofion trydanol.   Roedd Polisi Goleuadau Stryd diwygiedig (Hydref 2019) ynghlwm i’r adroddiad.   

 

Roedd y Cynghorydd Dennis Hutchinson yn mynegi pryderon am oleuadau stryd ar ddatblygiadau preswyl heb eu mabwysiadu.   Ymatebodd swyddogion i’r cwestiynau a godwyd yngl?n â cheisiadau cynllunio, mabwysiadu i berchnogaeth awdurdod lleol a gorfodaeth.  Roedd Rheolwr Gweithredol y Gogledd a Goleuadau Stryd yn tynnu sylw at dudalen 145 o’r adroddiad oedd yn cyfeirio at fabwysiadu’r rhestr eiddo goleuadau stryd.    Roedd yr Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad yn cydnabod y pwyntiau a godwyd a dywedodd fod Llywodraeth Cymru yn ystyried datblygiadau preswyl heb eu mabwysiadu.

 

Roedd aelodau yn diolch i’r Prif Swyddog a’i dîm am y gwelliannau i oleuadau stryd.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau gan y Cynghorydd Ray Hughes yn ymwneud â goleuadau mewn ardaloedd chwarae yn ystod misoedd y gaeaf, dywedodd y Rheolwr Gweithredol y Gogledd a Goleuadau Stryd y byddai’r Cyngor Tref/Cymuned angen cyflwyno cais i’r Awdurdod ei ystyried i ddechrau.    

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd George Hardcastle ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson. 

 

PENDERFYNWYD: 

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn argymell i’r Cabinet gymeradwyo’r Polisi Goleuadau Stryd diwygiedig, fel yn Atodiad 1 i’r adroddiad a nodi’r materion a godwyd gan Aelodau; a

 

(b)       Bod yr adroddiad ar y ddeddfwriaeth yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol.