Mater - penderfyniadau

Review of the Environmental Enforcement Policy

14/10/2020 - Review of the Council's Environmental Enforcement Policy

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad i geisio argymhelliad i’r Cabinet gymeradwyo’r Polisi Gorfodaeth Amgylcheddol diwygiedig.  Darparodd wybodaeth gefndirol a dywedodd fod Polisi’r Awdurdod, ‘Rheoli’r Amgylchedd Lleol’ oedd ynghlwm i’r adroddiad wedi’i adolygu i adlewyrchu’r amrywiol newidiadau i drefniadau Portffolio a deddfwriaeth ers 2013.  

 

Roedd y Rheolwr Gwasanaeth Rheoleiddio yn cyflwyno’r prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad ac yn cyfeirio at nod ac amcanion y Polisi Gorfodaeth Amgylcheddol a’r prif feysydd ffocws.  Roedd hefyd yn tynnu sylw at y data a ddarparwyd ar y nifer o Rybuddion Cosb Benodedig a gyflwynwyd ac eglurodd y bu gostyngiad yn y defnydd o Rybuddion Cosb Benodedig a rhoddwyd mwy o bwyslais ar addysgu’r cyhoedd ar effeithiau niweidiol baw c?n a thaflu sbwriel.    

 

Roedd aelodau yn codi nifer o bryderon am barcio y tu allan i’r ysgol ac mewn ardaloedd preswyl preifat, troliau siopa wedi eu gadael, tipio anghyfreithlon, gwastraff masnachol a safle, baw c?n, offer cyffuriau wedi eu gwaredu a choed/gwrychoedd wedi gordyfu.   Roedd swyddogion yn ymateb i’r sylwadau a’r pryderon a godwyd.   Gofynnodd y Cadeirydd i’r Aelodau gyflwyno’r pryderon penodol a godwyd yngl?n â materion yn eu Ward yn ysgrifenedig i’r Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) ar gyfer ymateb manwl a chopi i’r Cadeirydd.    Gofynnodd y Rheolwr Gwasanaeth Rheoleiddio i Aelodau gysylltu â’r Tîm Gorfodaeth i amlygu unrhyw feysydd oedd yn achosi problem yn eu Ward oedd angen mwy o sylw.    

 

Diolchodd y Cynghorydd Sean Bibby i’r Prif Swyddog a’i dîm am y gwelliant i’r gwasanaethau yn ei ward.

 

Ar gais y Cadeirydd, cytunwyd y byddai’r Prif Swyddog yn anfon copi o Bolisi Gorfodaeth Amgylcheddol yr Awdurdod ‘Rheoli’r Amgylchedd Lleol’ i holl Gynghorau Tref a Chymuned er gwybodaeth.  Roedd y Cadeirydd hefyd yn gofyn i ddatganiad cyllideb gael ei ddarparu i’r Pwyllgor yn manylu cost darparu Gorfodaeth Amgylcheddol yn y Sir.   Cytunodd y Prif Swyddog i ddarparu datganiad cyllideb i Aelodau’r Pwyllgor. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Paul Shotton yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd gan y Cynghorydd George Hardcastle. 

 

PENDERFYNWYD: 

 

Bod y Pwyllgor yn argymell i’r Cabinet yr adolygiadau arfaethedig i Bolisi Gorfodaeth Amgylcheddol y Cyngor fel Atodiad 1 i’r adroddiad.