Mater - penderfyniadau

Denbighshire & Flintshire Joint Archive Project

06/01/2020 - Denbighshire and Flintshire Joint Archive Project

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts adroddiad ynghylch y Prosiect Archif ar y Cyd Sir Ddinbych a Sir y Fflint a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i greu gwasanaeth archif arloesol a chynaliadwy mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych, ac i ddatblygu cyfleuster archif modern.

 

                        Roedd Cynghorau Sir y Fflint a Sir Ddinbych yn wynebu heriau sylweddol o ran yr adeiladau a oedd yn cael eu defnyddio i gadw deunyddiau’r archif. Roedd y ddau gyngor hefyd yn wynebu heriau o ran aneffeithlonrwydd ariannol, cadernid gweithlu a chynaliadwyedd hirdymor. Yr unig ffordd i ddatrys yr heriau hynny oedd drwy ymgymryd â dull radicalaidd ac arloesol a fyddai’n mynd i’r afael â’r anghenion o ran llety o fewn y ddau wasanaeth ac yn creu model darparu gwahanol iawn a fyddai’n ehangu ac yn gwella rôl y gwasanaeth archif yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

 

                        Cynigiwyd cyflawni hyn drwy wneud cais i Gronfa Treftadaeth y Loteri am hyd at 70% o’r arian oedd ei angen i adeiladu cyfleuster modern a fyddai’n cefnogi rhwydwaith ehangach o bwyntiau mynediad archif. Byddai hefyd yn darparu rhaglen estyn allan gynhwysfawr i grwpiau cymunedol drwy ei leoliad unigryw, ochr yn ochr â theatr o bwysigrwydd cenedlaethol.

 

                        Byddai’r model yn darparu gwasanaeth archif llawer iawn mwy hygyrch ac ymgysylltiol  ar draws ardaloedd y ddau Gyngor na’r hyn a oedd yn cael ei ddarparu ar hyn o bryd, gan gefnogi cyfraniad y Cyngor at y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

 

                        Esboniodd y Rheolwr Prosiect y byddai’n rhaid i Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Sir Ddinbych wneud cyfraniad ariannol mewn arian cyfatebol. Roedd y ddau wasanaeth wedi sefydlu partneriaethau gwaith anffurfiol effeithiol, a byddai cymryd y cam nesaf, sef eu huno yn ffurfiol i greu un gwasanaeth, yn rhoi’r cyfle iddynt rannu arbenigedd, sicrhau cadernid gwasanaeth a darparu model sy’n effeithiol yn ariannol ar gyfer y ddau Gyngor.

 

                        Cefnogodd yr Aelodau’r cynigion a hygyrchedd arloesol y gwasanaeth yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

           

             (a)      Cymeradwyo’r canlynol:

·         Creu un Gwasanaeth Archif cynaliadwy a rennir â Chyngor Sir Ddinbych

·         Adeiladu adeilad archif modern, wedi’i gyd-leoli â Theatr Clwyd, gyda rhwydwaith archif digidol helaeth ar draws y ddwy sir gyda rhaglen gymorth ac ymgysylltu â’r cyhoedd arloesol.

 

 (b)      Bod y dyraniad o £3,027,782 o gyllid y Cyngor, £2,979,782 o arian cyfatebol Cronfa Treftadaeth y Loteri a £48,000 o gyllid rheoli prosiectau yn cael eu hymrwymo i gyflawni’r Prosiect Archif ar y Cyd – Sir Ddinbych a Sir y Fflint.