Mater - penderfyniadau

Cemetery Provision and Strategy

06/01/2020 - Cemetery Provision and Strategy

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas adroddiad ar Ddarpariaeth a Strategaeth Mynwentydd a oedd yn tynnu sylw at yr heriau a’r risgiau mawr a oedd yn wynebu’r gwasanaeth o ran argaeledd gofodau claddu yn y dyfodol, yn enwedig ym Mynwentydd yr Hôb a Phenarlâg yn y tymor byr ac ym Mynwent Bwcle y tu hwnt i hynny.

 

Oni bai fod y camau gweithredu yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r prinder gofod claddu ni fyddai modd mwyach i roi preswylwyr lleol i orffwys yn eu mynwent leol gydag aelodau eraill eu teulu a’u hanwyliaid.  Roedd Sir y Fflint yn wahanol iawn i’r duedd genedlaethol ac roedd y Sir wedi cynnal oddeutu 400 o gladdedigaethau, roedd 70% yn gladdedigaethau corff cyfan a 30% yn amlosgiadau.

 

Ynghlwm wrth yr adroddiad oedd y capasiti amcangyfrifedig ar gyfer holl fynwentydd y Cyngor.

 

Roedd tir addas wedi’i ganfod ger mynwentydd yr Hôb a Phenarlâg ac roedd Achos Busnes Cyfalaf wedi’i gyflwyno i ymestyn mynwent yr Hôb ac roedd trafodaethau yn mynd rhagddynt gyda’r tirfeddiannwr. Roedd yr Achos Busnes Cyfalaf i ymestyn mynwent Penarlâg yn disgwyl cymeradwyaeth ac roedd trafodaethau cynnar wedi dechrau ag asiantwyr y tirfeddiannwr.

 

Soniodd y Cynghorydd Thomas a’r Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) am yr ystod eang o wasanaethau yr oedd y Tîm Profedigaethau wedi ymgymryd â nhw, a oedd yn dangos ymroddiad ac ymrwymiad i gymunedau.

 

PENDERFYNWYD:

           

             (a)      Cymeradwyo’r cynnig i brynu’r tir a nodwyd ar gyfer ymestyn mynwentydd

yr Hôb a Phenarlâg; a

 

 (b)      Chymeradwyo’r gwaith o ymchwilio i’r ddarpariaeth gladdu yn y dyfodol mewn mynwentydd eraill yn y Sir, a ddylai ddechrau 4 blynedd cyn y pwynt disgwyliedig pan y cyrhaeddir y capasiti presennol.