Mater - penderfyniadau
Capital Programme Monitoring 2019/20 (Month 6)
06/01/2020 - Capital Programme Monitoring 2019/20 (Month 6)
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf 2019/20 (Mis 6) a oedd yn crynhoi’r newidiadau a wnaed i'r Rhaglen Gyfalaf 2019/ 20 ers ei gosod ym mis Chwefror 2019 hyd at ddiwedd Mis 6, ynghyd â’r gwariant hyd yn hyn a'r alldro a ragwelir.
Roedd y Rhaglen Gyfalaf wedi gweld cynnydd net o £6.948m yn ystod y cyfnod a oedd yn cynnwys:
· Cynnydd net o £7.365 miliwn yn y rhaglen (£7.365 miliwn yng Nghronfa’r Cyngor a £0.000 miliwn yn y Cyfrif Refeniw Tai); a
· Chario swm o £0.417 miliwn ymlaen i 2020/21, a gymeradwywyd ym Mis 4.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r adroddiad cyffredinol;
(b) Cymeradwyo’r addasiadau a nodir yn yr adroddiad o ran cario cyllid ymlaen;
(c) Cymeradwyo ariannu’r cynlluniau yn defnyddio’r ‘lle’ presennol a’r arbedion TG a nodwyd; a
(d) Chymeradwyo defnydd y cyllid Ysgogi Economaidd.