Mater - penderfyniadau

Revenue Budget Monitoring 2019/20 (Month 7)

17/04/2020 - Revenue Budget Monitoring 2019/20 (Month 7)

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad ar Fonitro Cyllideb

Refeniw 2019/20 (Mis 7), a oedd yn nodi’r sefyllfa ddiweddaraf o ran monitro’r

gyllidebrefeniw yn 2019/20 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer y flwyddyn ariannol. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r sefyllfa, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol ym Mis 7. Roedd yr adroddiad yn rhoi rhagamcaniad o sut y byddai’r gyllideb yn sefyll ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe na bai unrhyw newid.

 

                        Y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw ariannol ar gynllunio arbedion effeithlonrwydd a rheoli costau, oedd:

 

            Cronfa’r Cyngor

 

  • Gwarged gweithredol o £2.193m oedd yn symudiad ffafriol o £0.505m o’r diffyg o £2.698m a adroddwyd ym Mis 6; a
  • Balans disgwyliedig yn y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2020 o £2.676m.

 

Cyfrif Refeniw Tai

 

  • Rhagwelwyd y byddai gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn yn £0.022m yn uwch na’r gyllideb. Roedd hyn yn symudiad negyddol o £0.012m o’r diffyg o £0.010m a adroddwyd ym Mis 6; a
  • Rhagwelwyd y byddai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2020 yn £1.301m.

 

Fel yr adroddwyd yn flaenorol, ac i helpu i liniaru’r gorwariant cyffredinol a ragwelid, cyflwynwyd y mesur canlynol o Fis 6:

 

1.    Bob gwariant nad oedd yn hanfodol i’w adolygu a’i herio er mwyn peidio/gohirio os oedd yn bosibl; a

2.    Her bellach i’r tîm rheoli portffolio i recriwtio i swyddi gwag h.y. peidio gorau/gohirio.

 

Ym Mis 6, mae hyn wedi arwain at ganfod bod modd gohirio gwariant untro o -£0.530 sydd wedi helpu i leihau’r gorwariant ariannol cyffredinol. Llwyddwyd i sicrhau gostyngiad pellach yn y sefyllfa ariannol gyffredinol ym Mis 7 trwy herio ymrwymiadau a gohirio recriwtio. Mae’r ymgysylltu â deiliaid cyllideb a thimau cyllid wedi bod yn gadarnhaol hyd yma, a bydd gwaith yn parhau i Fis 8 a thu hwnt gyda’r un tryloywder a her mewn ymgais i wella ymhellach y sefyllfa gyffredinol.

 

Hefyd mae’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol wedi darparu manylion am y sefyllfa a ragamcanir yn ôl portffolio; olrhain risgiau o fewn y flwyddyn a materion yn codi; sicrhau arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd o fewn y flwyddyn; effaith MTFS a risgiau; cronfeydd wrth gefn a balansau a chronfeydd a neilltuwyd.

 

Roedd yr adroddiad wedi’i ystyried ym Mhwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol ac ni chodwyd unrhyw faterion penodol.

 

Dywedodd Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai diweddariad ar gael y mis canlynol am y cyfraniadau posibl i’r gyllideb yn dilyn adolygiad o’r gostyngiad person sengl mewn perthynas â Threth y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer

          Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2020; a      

 

(b)       Nodi lefel balansau terfynol a ragamcanir ar y Cyfrif Refeniw Tai.