Mater - penderfyniadau

Treasury Management Mid-Year Review 2019/20 and Quarter 2 Update

11/02/2020 - Treasury Management Mid-Year Review 2019/20 and Quarter 2 Update

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid (Cyfrifeg Dechnegol) adroddiad canol y flwyddyn Rheoli’r Trysorlys drafft ar gyfer 2019/20 i’w argymell i’r Cabinet. Yn ogystal, rhannwyd diweddariad ar weithgareddau Chwarter 2 er gwybodaeth, ynghyd â nodyn atgoffa o’r sesiwn hyfforddi Rheoli’r Trysorlys sydd ar ddod.

 

Mewn crynodeb o’r prif bwyntiau, codwyd dau fenthyciad tymor hir newydd i ariannu’r Rhaglen Gyfalaf ar adeg pan gynigiai cyfraddau llog werth ariannol. Yn Chwarter 2, cafodd gynnydd anrhagweladwy yng nghyfraddau benthyca’r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus (PWLB) effaith gyfyngedig ar y gyllideb refeniw ond tynnodd i ffwrdd gyfleoedd i fanteisio ar gyfraddau is sefydlog yr oedd y Cyngor wedi’u cael yn y gorffennol. Mewn ymateb i’r newidiadau hyn, byddai angen rhoi ystyriaeth gytbwys i’r dewisiadau ariannu tymor hir ar gyfraddau is o’r farchnad gyda chynnydd mewn ffioedd ac amserau arwain i mewn.

 

Gofynnodd Sally Ellis am gynllunio i ymateb i unrhyw gynnydd pellach mewn cyfraddau benthyca gan PWLB. Dywedodd y Rheolwr Cyllid fod y cynnydd wedi effeithio ar gost ac ymarferoldeb y blaenoriaethau cenedlaethol ar draws Cymru gyfan a bod swyddogion yn gweithio gydag ymgynghorwyr Rheoli’r Trysorlys i asesu benthyca o’r sector preifat.

 

Siaradodd y Prif Weithredwr am effaith ffactorau allanol ar Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor a’r angen i weithio trwy agweddau ar fenthyca o’r sector preifat gyda chyngor cydweithwyr Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Yn dilyn sylwadau’r Cynghorydd Johnson ar y parodrwydd ar gyfer Brexit, dywedodd y Rheolwr Cyllid yn absenoldeb eglurder, y prif bryderon oedd sicrhau hylifedd yn achos unrhyw aflonyddwch i systemau ariannol a oedd yn adlewyrchu ddull gofalus y Cyngor. Siaradodd y Prif Weithredwr am gynlluniau wrth gefn ar lefel genedlaethol.

 

Wrth ganmol yr adroddiad, cyfeiriodd Allan Rainford at y gostyngiad mewn gwariant cyfalaf yn 2018/19. Dywedodd y Rheolwr Cyllid y byddai darogan parhaus ystyried unrhyw lithriant rhwng y blynyddoedd i hysbysu penderfyniadau benthyca. Ar gwestiwn arall, cadarnhaodd fod proffil aeddfedrwydd y ddyled yn cael ei fonitro yn unol â dangosyddion Rheoli’r Trysorlys.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi Adroddiad Canol y Flwyddyn Rheoli’r Trysorlys drafft 2019/20 ac yn cadarnhau na fydd unrhyw faterion yn cael eu tynnu er sylw’r Cabinet ar 17 Rhagfyr 2019.