Mater - penderfyniadau
Capital Strategy including Prudential Indicators 2020/21 - 2022/23
11/02/2020 - Capital Strategy including Prudential Indicators 2020/21 - 2022/23
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid (Cyfrifeg Dechnegol) y Strategaeth Gyfalaf wedi’i diweddaru cyn cyflwyno i’r Cabinet. Roedd y Strategaeth yn ddogfen gyffredinol a ddygodd ynghyd amryw strategaethau a pholisïau, wedi’u rhannu’n nifer o adrannau ac yn cynnwys manylion Dangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2020-21 - 2022-23. Ni wnaed unrhyw newidiadau sylweddol o’r flwyddyn flaenorol.
Cynigiwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Collett ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Bateman.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn argymell y Strategaeth Gyfalaf i’r Cabinet; a
(b) Bod y Pwyllgor yn argymell y canlynol i’r Cabinet:-
· Y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2020/21 - 2022/23 fel y manylwyd yn Nhablau 1, a 4 – 7 sy’n cynnwys y Strategaeth Gyfalaf.
· Awdurdod wedi’i ddirprwyo i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol weithredu symudiadau rhwng y terfynau a gytunwyd ar wahân o fewn y terfyn awdurdodedig ar gyfer dyled allanol a’r ffin weithredol ar gyfer dyled allanol (Tabl 6 y Strategaeth Gyfalaf).