Mater - penderfyniadau
Review of polling districts and polling places
09/10/2020 - Review of polling districts and polling places
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar ganlyniad yr adolygiad o’r ardaloedd pleidleisio a mannau pleidleisio (mae angen cynnal adolygiad bob pum mlynedd yn unol â’r gofynion statudol).
Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd drosolwg o’r cynigion terfynol, fel y nodir yn yr adroddiad, sy’n ystyried materion a godwyd yn ystod y broses ymgynghori.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghr. Thomas a Bithell.Yn dilyn pleidlais, cymeradwywyd yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi canlyniad yr adolygiad a’r ymgynghoriad;
(b) Cymeradwyo’r cynigion terfynol ar gyfer ardaloedd pleidleisio a mannau pleidleisio, fel y nodir yn Atodiad 2.