Mater - penderfyniadau

Waste Strategy Review Consultation

17/12/2019 - Waste Strategy Review Consultation

Cyn ystyried yr adroddiad, roedd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad eisiau cynghori’r Pwyllgor bod Sir y Fflint yn perfformio’n dda ar ailgylchu ac yn uwch na thargedau gan mai Sir y Fflint yw’r trydydd gorau yng Nghymru ac mae Cymru yw’r trydydd gorau yn y byd.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) gefndir yr adroddiad a gofynnodd i’r Pwyllgor am eu adborth am yr ymgynghoriad 6 wythnos am ailgylchu ac y byddai’n dod yn ôl gyda’r canlyniadau unwaith roedd yr ymgynghoriad wedi’i gwblhau.  Cyflwynodd y Rheolwr Cyflenwi Gwasanaeth a roddodd wybodaeth am y materion a ganlyn:

 

·                     Targedau a Pherfformiad Ailgylchu

·                     Yr angen i adolygu’r Targedau Ailgylchu

·                     Adolygiad o’r Strategaeth Gwastraff Cyfredol

 

            Holodd y Cadeirydd pam bod y cyfnod ymgynghori mor fyr gan mai dim ond chwech wythnos o hyd ydoedd. Dywedodd y Rheolwr Cyflenwi Gwasanaeth bod bron i 7,805 o ymatebion wedi cyrraedd yn barod ac roedd yr ymgynghoriad yn parhau ar agor tan 31 Hydref. Byddai’r arolwg electronig yn gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith dadansoddi ond byddai angen mynd drwy dros 2,000 o sylwadau unigol.

 

            Gofynnwyd cwestiynau am gwael gwared ar gewynnau. Dywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) eu bod yn edrych mewn i hyn a bod Llywodraeth Cymru (LlC) yn buddsoddi mewn safle ailgylchu cewynnau yng Ngogledd Cymru ond am y tymor byr roedden nhw’n parhau i fynd i Barc Adfer.

           

           Codwyd pryderon am wastraff gweddilliol. Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad, ar y cyfan, bod gwastraff gweddilliol wedi gostwng oherwydd y cynnydd ym maes gorfodi gwastraff. Ychwanegodd y Rheolwr Cyflenwi Gwasanaeth y byddai gwastraff gweddilliol yn cael ei gasglu ac y byddai sticer yn cael ei roi ar y bin i nodi ei fod wedi cael ei gymryd ond na ddylid cyflwyno gwastraff wrth ochr y bin.  Byddai llythyr yn cael ei anfon hefyd a Rhybudd Cosb Benodedig am droseddau pellach. Cwestiynodd y Cynghorydd Hutchinson pam nad oedd yn cael ei gymryd oherwydd roedd o’n ei weld fel pobl yn bod yn gyfrifol am wastraff, ond rhoddwyd gwybod iddo bod y bag du fel arfer yn cynnwys eitemau y gellid eu hailgylchu.

 

Codwyd maint y biniau ac amlder y casglu hefyd. Dywedodd y Cynghorydd Hardcastle na fyddai pobl h?n yn gallu defnyddio biniau mwy ac awgrymodd y Cynghorydd Dolphin petai biniau’n llai y byddai’n gorfodi pobl i ailgylchu mwy o bosib. Byddai angen i’r biniau fod yn fwy petai casgliadau’n newid i gael eu casglu bob 3-4 wythnos.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bibby bod y rhan fwyaf o breswylwyr yn ailgylchu’n dda ac y dylai LlC orfodi gwneuthurwyr i ddefnyddio pecynnau y mae modd eu hailgylchu neu rai sy’n fioddiraddadwy. Dywedodd hefyd bod hi’n anodd cael bocsys a bagiau ailgylchu weithiau. Nid oedd yn cefnogi casgliadau bob 3-4 wythnos ac roedd yn teimlo y dylai’r ffocws fod ar annog pobl i ailgylchu mwy.

 

Roedd aelodau eraill yn cefnogi lobïo LlC a dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad bod y Llywodraeth yn ystyried deddfwriaeth newydd mewn perthynas â chyfrifoldeb cynhyrchwyr.

 

Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd gan y Cynghorydd Allport, cadarnhaodd y Rheolwr Cyflenwi Gwasanaeth nad oedden nhw’n defnyddio’r cwmni oedd yn cyflenwi’r sticeri ar gyfer y biniau brown bellach a’u bod yn ymchwilio i system tag gan y byddai'n anoddach i dynnu'r rhain ymaith a'u bod yn gryfach.

 

Cododd y Cynghorydd Hughes bryder am y diffyg lle i finiau wrth dai teras oherwydd eu bod mor agos at ei gilydd ac na ellid gwybod i sicrwydd o ba d? ddaeth y bag tu allan i'r bin.Dywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) bod llawer o waith yn digwydd mewn perthynas â’r mannau casglu cymunedol, gan gynnwys gosod camerâu mewn rhai mannau.

 

            Awgrymodd y Cynghorydd Evans bod ymgynghoriadau o ddrws i ddrws yn digwydd mewn mannau sy'n achosi problemau a holodd pam mai yn ystod y dydd yn unig roedd yr ymgynghoriadau yn y Canolfannau Cyswllt a’r Llyfrgelloedd. 

 

            Cytunodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) a dywedodd y byddai Swyddogion yn cysylltu â phreswylwyr mewn ardaloedd oedd yn peri problemau.Cytunodd hefyd bod angen i’r digwyddiadau ymgynghori gael eu cynnal ar adegau gwahanol i fod yn gyfleus i breswylwyr.

 

            Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Sean Bibby ac eiliwyd gan y Cynghorydd Paul Shotton.

 

            PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi perfformiad ailgylchu cyfredol y Cyngor; a

 

(b)       Nodi’r adborth am y pwyntiau a godwyd yn y rhaglen ymgynghori a’r holiadur.