Mater - penderfyniadau

Asset Management Planning and the use of Asset Registers

27/11/2019 - Asset Management Planning and the use of Asset Registers

Cyflwynodd Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad yn amlinellu’r dull cynllunio rheoli asedau a defnyddio cofrestru asedau, a defnydd y Cyngor yn ymarferol.

 

Rhoddodd drosolwg o’r prif bwyntiau o ran datblygu strategaeth asedau hirdymor i wneud y mwyaf o asedau a chysylltu ag amcanion Cynllun y Cyngor. Roedd y dull o reoli asedau, o safbwynt buddsoddi a chynnal, yn ystyried paramedrau arfer da a osodwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru. Roedd y gwahanol Gynlluniau Rheoli Asedau a’r strategaeth gyffredinol wedi’u dwyn ynghyd mewn Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol (CAMP) oedd yn cael ei adolygu ar hyn o bryd ac a gaiff ei rannu ym mis Tachwedd. Ar 31 Mawrth 2019, gwerth cyfanswm balans ar gyfer asedau eiddo cyhoedd a thir oedd £762m; roedd y ffigur hwn yn amodol ar amodau’r farchnad oedd yn anwadal.

 

Cynigiodd Rheolwr Cyllid (Cyfrifeg Dechnegol) eglurhad ar y cyswllt rhwng cynllunio asedau a’r Rhaglen Gyfalaf i’r Datganiad o Gyfrifon lle cofnodir gwerth asedau sefydlog bob blwyddyn yn unol â gofynion.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Heesom at ddogfen lle’r oedd y Cyngor wedi ymateb i arolwg yn gofyn cwestiynau am reoli asedau gan Lywodraeth Cymru (WG) ychydig flynyddoedd yn ôl. Gan gydnabod y cyngor a’r arweiniad oedd ei angen gan swyddogion, pwysleisiodd bwysigrwydd cyfraniad adeiladol gan Aelodau a gofynnodd am wybodaeth fanylach am y fframwaith rheoli asedau a’r defnydd ohono i wasanaethau rheng flaen. Wrth gyfeirio at gyfanswm gwerth asedau’r Cyngor, gofynnodd i’r Arweinydd ystyried y ddogfen y cyfeiriodd ati a lefel cyfraniad Aelodau i’r broses. Awgrymodd hefyd fod y ddogfen yn cael ei rhannu gydag Aelodau.

 

Wrth dderbyn copi o’r ddogfen, dywedodd y Cynghorydd Roberts nad oedd yn ymwybodol ohoni. Dywedodd ei fod wedi bod yn werthfawr ei rhannu ymlaen llaw a chytunodd i roi ystyriaeth ddyledus iddi.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers hefyd at y ddogfen a rannwyd gan y Cynghorydd Heesom.  Siaradodd am Aelodau’n cael mynediad i’r gofrestr eiddo corfforaethol, yr ystâd amaethyddol ac unedau diwydiannol a gofynnodd a oedd arolwg cyflwr wedi’i gynnal ar gyfer yr olaf. Dywedodd ei fod yn bwysig monitro asedau gwag i sicrhau cymaint o incwm â phosibl i’r Cyngor.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach, cadarnhaodd y Rheolwr Cyllid mai’r cyfanswm gwerth a nodwyd oedd y ffigur net ar ôl disbrisio. Tynnodd sylw at y tabl yn yr adroddiad oedd yn dangos y sylfaen mesur ac amlder dibrisio, fel y rhagnodwyd.

 

Yn dilyn cwestiwn gan y Cynghorydd Bateman, dywedodd y Rheolwr Cyllid mai gwerth stoc tai’r Cyngor oedd £203m ar 31 Mawrth 2019. Aeth ymlaen i egluro’r dull o brisio ‘gwerth defnydd presennol’ ar gyfer tai cymdeithasol.

 

Mewn ymateb i bryderon y Cynghorydd Heesom am yr ymgynghori ag Aelodau ynghylch dyfodol Neuadd y Sir, atebodd y Cynghorydd Roberts fod y pwnc wedi cael ei drafod gan y Cabinet ac nad oedd y dewis o alw’r penderfyniad i mewn wedi’i ddefnyddio.

 

Dywedodd Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y prif benderfyniadau am sylfaen asedau’r Cyngor wedi’u cymryd yn agored gan y Cabinet yn unol â’r strategaeth y cytunwyd arni i leihau nifer y safleoedd ffisegol, yn cynnwys eiddo’r Cyngor. Roedd y dull hwn wedi sicrhau arbedion o ran cyfraddau annomestig cenedlaethol (NNDR) ac wedi gwella amodau gwaith i staff. Byddai’r penderfyniad i drosglwyddo rhai o swyddogaethau’r Cyngor i Ewlo yn hwyluso’r broses raddol o ddymchwel Neuadd y Sir a byddai hynny yn ei dro’n lleihau ôl troed y Cyngor ac yn creu refeniw.

 

Yn dilyn cwestiwn gan y Cadeirydd am unedau diwydiannol a thai gwag, dywedodd Prif Swyddog (Tai ac Asedau) fod cyfraddau defnyddio ar hyn o bryd yn uchel ac oherwydd oed peth o’r stoc hwnnw, byddai adolygiad yn cael ei gynnal i benderfynu ar y ffordd orau i weithredu o ran dyfodol ei unedau diwydiannol. O safbwynt y stoc tai gwag, y broblem i'r Cyngor oedd colli incwm rhent ac os oeddent yn wag yn y tymor hir, byddent yn amodol ar bremiwm Treth y Cyngor oedd yn cael ei gynnwys yn y Cyfrif Refeniw Tai.

 

O ran ‘asedau a gedwir i’w gwerthu’ yn yr eirfa yn yr adroddiad, cwestiynodd y Cynghorydd Peers a oedd y meini prawf yn cael eu defnyddio’n gyson i sicrhau’r prisiant gorau. Cyfeiriodd at gwestiwn yr oedd wedi’i godi ynghylch pris tir ym Maes Gwern, cwestiwn yr oedd yn dal i ddisgwyl ateb iddo. Dywedodd y Rheolwr Cyllid mai’r geiriad yn yr adroddiad oedd y meini prawf penodedig ar gyfer dosbarthu asedau ac y byddai tir nad oedd yn barod i’w werthu’n cael ei gadw fel ‘asedau dros ben’. Eglurodd Prif Swyddog (Tai ac Asedau) ganlyniad trosglwyddo tir ym Maes Gwern fel rhan o’r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP).

 

Disgrifiodd y Cynghorydd Jones y gofrestr asedau fel dogfen dechnegol sy’n cael ei rheoli gan reolau llym a dywedodd y dylai’r Pwyllgor nodi’r Adroddiad. Wrth gynnig yr argymhelliad, gofynnodd am gynnwys CAMP yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ar gyfer y cyfarfod nesaf.

 

Holodd y Cynghorydd Banks am esboniad ynghylch natur cwestiwn y Cynghorydd Peers.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod trosglwyddo’r safle hwnnw’n golygu defnyddio cwmni preifat i brisio’r tir, oedd yn arfer a ddefnyddid yn aml gan gynghorau eraill wrth werthu tir.

 

Ar ôl adolygu’r ddogfen a rannwyd gan y Cynghorydd Heesom, dywedodd Prif Swyddog (Tai ac Asedau) ei bod yn hanesyddol gan nad oedd y teitlau swyddi oedd ynddi’n bodoli bellach. Dywedodd Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y broses ar gyfer gwaredu asedau wedi newid ers hynny.

 

Wrth eilio’r argymhelliad, dywedodd y Cynghorydd Shotton fod yr adroddiad yn rhoi cipolwg ar y strategaeth fanwl ar reoli asedau cyn derbyn y Cynllun Rheoli Asedau yn Nhachwedd. Dywedodd fod y dull wedi datblygu’n sylweddol dros y blynyddoedd, a thalodd deyrnged i’r Cyngor am fuddsoddi mewn asedau fel ysgolion, tai a phriffyrdd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nod yr adroddiad yn cael ei nodi.