Mater - penderfyniadau
Regional Technical Statement for Aggregates Second Review Consultation
06/01/2020 - Regional Technical Statement for Aggregates Second Review Consultation
Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell adroddiad ynghylch y Datganiad Technegol Rhanbarthol ar gyfer Ymgynghoriad Ail Adroddiad Agregau, a oedd yn ddogfen a baratowyd ar ran Llywodraeth Cymru a Grwpiau Gwaith Agregau Rhanbarthol, ac roedd yn ofyniad o Nodyn Cyngor Technegol Mwynau 1: Agregau - Polisi Cynllunio Cymru.
Pwrpas y Datganiad Technegol Rhanbarthol oedd asesu’r galw am agregau adeiladu yn y dyfodol a gwneud argymhellion i awdurdodau lleol i ddarparu ar gyfer hyn yn y Cynlluniau Datblygu Lleol i sicrhau diogelwch hirdymor y cyflenwad i fodloni’r galw a ragwelir yn y dyfodol.
Ychwanegodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod y Datganiad Technegol Rhanbarthol yn nodi rhaniadau o faint o agregau adeiladu (cerrig wedi’u torri, tywod a cherrig mân) oedd rhaid cynllunio ar eu cyfer yn y Cynlluniau Datblygu Lleol er mwyn sicrhau bod modd cynnal cyflenwad dibynadwy i ddiwallu anghenion y sector adeiladu. Roedd y Datganiad Technegol Rhanbarthol yn argymell rhaniad sylweddol o gerrig wedi’u torri a rhaniad llai o dywod a cherrig mân ar gyfer Sir y Fflint, roedd y ddau yn gofyn am ddyraniadau ar gyfer mwynau yn y CDLl ac yn argymell cydweithio rhyng-awdurdod os nad oedd un awdurdod yn gall gwneud darpariaeth o’r fath.
Bu i’r Gr?p Strategaeth Cynllunio ystyried yr adroddiad cyn ei gyflwyno i’r Cabinet ei gymeradwyo.
PENDERFYNWYD:
(a) Cefnogi Ail Adroddiad Datganiad Technegol Rhanbarthol; a
(b) Derbyn yr argymhellion a nodir yn y Datganiad Technegol Rhanbarthol ar gyfer y darpariaethau strategol sy’n ofynnol er mwyn cynllunio ar gyfer darparu agregau adeiladu.