Mater - penderfyniadau
Asset Disposals and Capital Receipts Generated 2018/19
11/02/2020 - Asset Disposals and Capital Receipts Generated 2018/19
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yr adroddiad blynyddol yn crynhoi gwerthiannau tir ac yn gwireddu derbyniadau cyfalaf yn ystod 2018/19. Cysonwyd derbyniadau cyfalaf i gyfrannu tuag at raglen y Cyngor o gynlluniau cyfalaf, sy’n cynnwys rhai graddfa fawr a bach ar draws pob portffolio. Atgoffwyd ynghylch goblygiadau refeniw’r gwariant cyfalaf a’r gostyngiad parhaus yng nghymorth Llywodraeth Cymru i wariant cyfalaf.
Mewn ymateb i gwestiynau gan Allan Rainford, eglurodd y Prif Swyddog y broses ar gyfer gwerthu asedau dros ben gan gynnwys y cyfle i adfer y defnydd ohonynt trwy Drosglwyddo Asedau Cymunedol. Dywedodd fod yr holl bortffolios yn gysylltiedig â’r broses ac roedd yr asedau’n cael eu hadolygu’n gyson.
Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod adolygiad diweddaraf y broses, a helpodd i gryfhau trefniadau, wedi cael sicrwydd ffafriol gan Archwilio Mewnol.
Siaradodd y Cynghorydd Heesom am yr angen am dryloywder a chysylltiad yr Aelod ar dderbyniadau cyfalaf. Awgrymodd hefyd y gallai’r Rhaglen Gyfalaf alluogi ar gyfer diwygio gwariant portffolio i ryddhau’r pwysau ar y Gyllideb Refeniw. Cyfeiriodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) at y defnydd o adnoddau cyfalaf ar brosiectau fel ymestyn Marleyfield a’r effaith gyffredinol ar gostau cynnal a chadw. Roedd y broses brisio’n cynnwys y Prisiwr Ardal neu’r sefydliadau sector preifat ar gyfer cyngor lleol arbenigol, yn unol â’r egwyddorion, gyda’r canlyniadau’n cael eu hadrodd i’r Bwrdd Rhaglen Asedau Cyfalaf.
Mewn ymateb i sylwadau’r Cadeirydd am drefniadau hanesyddol, dywedodd y swyddogion fod y Bwrdd Rhaglen Asedau Cyfalaf, nad oedd yn gorff gwneud penderfyniadau, yn effeithiol wrth adolygu gwerthiant asedau’n gyson i gefnogi’r Rhaglen Gyfalaf. Adroddwyd gwerthiannau uwchlaw’r trothwy gofynnol i’r Cabinet.
Pan ofynnodd Sally Ellis am dderbyniadau cyfalaf a gafwyd o ystadau amaethyddol, dywedodd y Prif Swyddog fod y broses yn fwy cymhleth, oedd yn cynnwys cyfnod arwain i mewn hwy. Disgrifiodd y dull rhagweithiol o ymgysylltu â thenantiaid i ddeall eu cynlluniau i’r dyfodol gan nodi er bod gan rai oedd o dan denantiaethau’r hen Ddeddf Amaethyddol hawliau dilyniant, byddai’r model cyfredol yn defnyddio Tenantiaethau Busnes Fferm. Wrth derfynu tenantiaethau, gosodwyd ffermydd gwag ar y farchnad agored a chawsant eu marchnata’n effeithiol i’w gwerthu trwy asiantaethau amaethyddol arbenigol.
Dywedodd y Cadeirydd y dylai’r argymhellion mewn adroddiadau fod yn fwy ystyrlon. Cydnabuwyd hyn gan y Prif Weithredwr a ddywedodd y dylai swyddogion ystyried atebion mwy rhagweithiol fel a ddangoswyd mewn adroddiadau i’r pwyllgorau Trosolwg a Chraffu.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad.