Mater - penderfyniadau

Winter Maintenance and Severe Weather Policy

16/12/2019 - Winter Maintenance Policy Review 2019-21

Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet ar gyfer Strydwedd a Chefn Gwlad Mark Edwards, Cydlynydd Ardal Bwcle a oedd yn arbenigo mewn gwaith cynnal yn y gaeaf. Dywedodd bod 6 swyddog ar ddyletswydd yn gweithio ar sail rota ac yn monitro rhagolygon y tywydd 24 awr y dydd.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad am y gweithdrefnau ar gyfer darparu gwaith cynnal y Cyngor dros y gaeaf a’r gwasanaethau mewn tywydd garw sy’n cael ei adolygu bob 2 flynedd. Dywedodd bod Llywodraeth Cymru wedi newid darparwr rhagolygon y tywydd i Metdesk yn ddiweddar. Ychwanegodd bod cyfathrebu wedi gwella gydag ysgolion er mwyn sicrhau eu bod yn cael copi o’r rhagolygon yn brydlon er mwyn eu helpu i wneud penderfyniadau mewn perthynas â chau ysgolion.

 

Canmolodd yr Aelodau y gwasanaeth tywydd garw a oedd yn cael ei ddarparu ledled Sir y Fflint.  Awgrymodd Owen Thomas bod materion wedi codi mewn ardaloedd gwledig ar brydiau ac awgrymodd y dylai bod gan y ffermwyr y grym i fynd allan ar eu liwt eu hunain mewn tywydd garw, yn hytrach na disgwyl i'r cydlynwyr ardal gysylltu, oherwydd weithiau, nid oedd yr amodau yr un fath â lle roedd y tywydd yn cael ei fonitro, ac roedd hefyd yn gwaethygu’n sydyn iawn.Awgrymodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) efallai mai’r ffordd ymlaen oedd bod y contractwyr yn ffonio’r cydlynwyr cyn iddynt fynd allan i gael cytundeb.

 

 Cytunodd y Cadeirydd bod y timau cynnal yn y gaeaf yn uchel eu parch a'i fod yn croesawu’r cyfle i adolygu'r polisi yn seiliedig ar y gwersi a ddysgwyd.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dolphin a oedd unrhyw gynlluniau i gael adeilad parhaol yn hytrach na’r llen oedd yn cael ei ddefnyddio i orchuddio’r 7000 o halen sy’n cael ei storio ar Safle Ailgylchu Maes Glas. Gofynnodd hefyd a oedd unrhyw gynlluniau i ostwng faint oedd yn cael ei storio.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) wrth yr Aelodau bod yr halen yn cael ei storio yno oherwydd y diffyg cenedlaethol a brofwyd yn y blynyddoedd blaenorol yn dilyn cyngor gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cymru. Eglurodd bod y rhan fwyaf o Gynghorau’n cadw stoc o halen a oedd yn cael ei ddefnyddio a’i ailstocio er mwyn cynnal lefelau rhesymol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Evans bod y rhan fwyaf o gwynion yr oedd o wedi’u cael am ysgolion yn cau a’r effaith dominos pan roedd un ysgol yn cael bod eraill yn dilyn ac yn cau hefyd.Er ei fod yn cytuno bod Sir y Fflint yn darparu gwasanaeth da, y prif reswm dros gau ysgolion mae’n debyg oedd athrawon oedd yn byw tu allan i’r Sir yn methu cyrraedd yr ysgolion yn ddiogel. Cydnabu'r Prif Swyddog bryderon y Cynghorydd Evans a chyfeiriodd at y gwaith sy’n cael ei wneud gyda’r ysgolion gyda’r bwriad o wella cyfathrebu.

 

Cefnogwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Evans a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn argymell y Polisi Cynnal yn y Gaeaf (2019-21), sydd hefyd yn cynnwys gweithdrefnau ar gyfer darparu gwaith cynnal yn y gaeaf a gwasanaeth tywydd garw’r Cyngor i’r Cabinet.