Mater - penderfyniadau
Flintshire Food Enterprise and the Food Poverty Response
24/12/2019 - Flintshire Food Enterprise and the Food Poverty Response
Cyflwynodd y Prif Swyddog yr adroddiad oedd yn rhoi gwybodaeth ar ddatblygu’r fenter bwyd ac ymateb i dlodi bwyd. Roedd y prosiect wedi datblygu o’r ymgyrch llwgu yn ystod gwyliau i bartneriaeth gyda Clwyd Alyn, Can Cook a Chyngor Sir y Fflint i ffurfio menter gymdeithasol. Cyfeiriodd yr Aelodau at adran 1.09 o’r adroddiad oedd yn cynnwys amcanion y fenter gymdeithasol ac y byddai’r model pryd ar glud hefyd yn darparu agwedd gymdeithasol i’r cymunedau yn arbennig ardaloedd gwledig lle na fyddai gan drigolion lawer o gyswllt cymdeithasol a rhyngweithio o ddydd i ddydd. Yna rhoddodd wybodaeth ar y gwasanaethau darparu bwyd gofal cartref gan ddweud mai’r nod oedd symud o’r cymorth bwyd i brynu bwyd i grwpiau bregus fyddai yn ei dro yn cefnogi pobl mewn cymunedau ac yn mynd i’r afael ag unigrwydd. Cyfeiriodd yr Aelodau at dudalen 27 pwynt 1.11 yn yr adroddiad oedd yn amlinellu’r buddsoddiad cychwynnol gyda Sir y Fflint yn anelu i adeiladu a datblygu cegin cynhyrchu ar gyfer darparu bwyd i gymunedau a chymdeithasau tai.
Gofynnodd y Cynghorydd Jones am eglurhad ar rai brawddegau yn yr adroddiad:-
· Ar dudalen 26 ym mhwynt 1.01 “nid oes gan bobl fynediad i fwyd ffres da o ddewis” a gofynnodd at beth oedd hyn yn cyfeirio. Mewn ymateb, eglurodd y Prif Swyddog fod yna bobl yn defnyddio banciau bwyd ac er eu bod yn darparu gwasanaeth ardderchog nid oeddent yn darparu bwyd ffres da. Roedd yn ôl dewis yn golygu nad oedd ganddynt unrhyw le arall i fynd. Ychwanegodd y Rheolwr Budd-daliadau bod yna faterion gyda phobl yn methu cael bwyd ffres da yn arbennig mewn ardaloedd gwledig. Ychwanegodd fod gan bawb, beth bynnag eu cefndir, yr hawl i gael bwyd ffres da. Awgrymodd y Cynghorydd Jones y dylid ei newid i “efallai yn ôl amgylchiadau.”
· Yna cyfeiriodd at y paragraff nesaf “ar gyfer pob £1 sy’n cael ei wario ar fwyd roedd 37c yn cael ei ychwanegu ar gyfer clefydau sy’n ymwneud â diet ac angen triniaeth yn ddiweddarach” a gofynnodd am eglurhad. Mewn ymateb, eglurodd y Rheolwr Budd-daliadau bod hwn wedi’i dynnu o ddarn o ymchwil a gynhaliwyd gan weithwyr iechyd proffesiynol yn edrych ar effaith ehangach ar y gwasanaeth iechyd oherwydd salwch cysylltiedig â deiet. Roedd y sylw wedi’i wneud o ganlyniad i ddeietau gwael neu pobl ddim yn cael digon i’w fwyta yna byddai angen 37c o bob £1 i drin y bobl hynny. Dywedodd y Cynghorydd Jones fod y 37c yr hyn yr oedd yn rhaid i gymdeithas ei dalu i ddigolledu’r dewisiadau hynny a wnaed mewn blynyddoedd cynharach.
Dywedodd yr Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad bod y mesurau hyn yn bwysig yn arbennig wrth ymgeisio am arian ac amlinellodd y gwaith a wnaed gan awdurdodau lleol a’r Gwasanaeth Iechyd o ran ataliad. Ychwanegodd yr Aelod Cabinet Rheoli Corfforaethol ac Asedau fod hon yn fenter wych yn arbennig i’r sawl oedd yn byw mewn ardaloedd gwledig a fyddai nid yn unig yn cael pryd o fwyd llawn maeth ond cyswllt gyda pherson arall hefyd. Rydym hefyd angen lleihau’r nifer o ganserau a achosir gan ddeietau gwael.
Roedd y Cynghorydd Paul Johnson yn codi’r pwyntiau canlynol:-
· Ym mhwynt 1.12 yn yr adroddiad a’r pwynt bwled cyntaf “cynnwys y naratif gwerth cymdeithasol awgrymodd y dylai ond ddarllen “gwerth cymdeithasol.”
· Yn yr adroddiad monitro cyfeiriwyd at y Swyddog Gwerth Cymdeithasol a’i gwestiwn oedd a oedd y rhain yn mynd i gael eu cysylltu. Gofynnodd a fyddai hwn yn dod i’r pwyllgor yn ddiweddarach i’r aelodau gael gwell dealltwriaeth o’r hyn y gellir ei gyflawni o ran gwerth cymdeithasol.
· O ran y Model Cyflogaeth Moesegol gofynnodd sut fyddai hyn yn gweithio gyda’r tri phartner gwahanol a gofynnwyd a gysylltwyd â siopau trin gwallt gan mai’r unig gyswllt rheolaidd i rai pobl ynysig fyddai gyda’u siop trin gwallt. Cyfeiriodd at KIM Inspire a meddyliodd a fyddai hyn yn ffordd i ymgysylltu â phobl?
Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol at lawer iawn o waith a wneir ar unigrwydd ac ynysiad oedd yn croesi i’r portffolio Tai ac Asedau. Hefyd cyfeiriodd at y gwaith a wneir o fewn y portffolio gwasanaethau cymdeithasol o ran tlodi bwyd a thlodi mislif.
Dywedodd yr Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad pan oedd yn gweithio yn swyddfa'r post/siopau trin gwallt oedd yn ganolbwynt y gymuned ac yn cofio adeg pan oedd preswylydd oedrannus wedi cael strôc a neb yn gwybod, roedd yn ymwneud â chael y cysylltiadau hynny yn y cymunedau. Yna cyfeiriodd at gaffael gwasanaethau a’r angen i sicrhau bod yna elfen gymdeithasol. Ychwanegodd y byddai’n codi hyn ac roedd wedi gwneud llawer o nodiadau.
Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y pwynt ar Gyflogaeth Moesegol a oedd yn bwysig yn y model hwn a dywedodd fod y tri phartner i gyd yn gweithio gyda’i gilydd ar hyn.
Dywedodd y Cadeirydd am y gr?p dros 50 oed yr oedd yn ymwneud â nhw gan ddweud unwaith yr oedd pobl yn dod draw, roeddent yn aros ac yna roedd ganddynt y rhwydwaith cymorth. Yna cyfeiriodd at y person ifanc aeth yn ddall oherwydd ei ddeiet gwael a gofynnodd beth oedd yn dod yn gyntaf, ai addysg neu cael bwyd da ar gael. Rydych angen cael y bwyd yno ac yna addysgu. Yna cyfeiriodd at bwynt y Cynghorydd Jones, i bob £1 sy’n cael ei wario ar fwyd, roedd 37c yn cael ei ychwanegu ar gyfer clefydau, a gofynnwyd pa fwyd y cyfeiriwyd ato. Cadarnhawyd bod y cyfeiriad at fwyd wedi’i brosesu, bwyd meicrodon a bwyd hallt iawn.
Dywedodd y Cynghorydd Jones am raglen a ddarparwyd i siopau trin gwallt iddynt nodi arwyddion o anawsterau a rhoi’r gallu iddynt arwyddbostio’r unigolyn hwnnw i’r gwasanaethau yr oeddent eu hangen. Dywedodd yr Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad ei bod wedi cael negeseuon gan ei siop trin gwallt lleol yn gofyn iddi am gymorth gyda chaniatâd yr unigolyn hwnnw.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Martin White a’i eilio gan y Cynghorydd David Wisinger.
PENDERFYNWYD:
Bod y pwyllgor yn cefnogi a chymeradwyo’r cynnig am fodel Menter Gymdeithasol newydd a fydd yn gwneud cyfraniad sylweddol tuag at leihau tlodi bwyd yn y Cyngor.