Mater - penderfyniadau

Attendance and Exclusions

08/01/2020 - School Attendance and Exclusions

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Dilyniant) adroddiad ar berfformiad y portffolio o ran presenoldeb mewn ysgolion a gwaharddiadau ar gyfer 2017-18; trosolwg o’r Tîm Gwaith Cymdeithasol Addysg ac amserlen ddiwygiedig ar gyfer adrodd yn y dyfodol. Dywedodd y byddai’r fformat diwygiedig yn sicrhau bod gan yr Aelodau’r cyfle i ystyried a chwestiynu’r data a byddai hyn yn cefnogi monitro pellach o gynnydd yn erbyn yr argymhellion o’r arolygiad Estyn diweddar yn ymwneud â phresenoldeb a gwaharddiadau.

 

Esboniodd yr Uwch Reolwr bod presenoldeb ar draws ysgolion Sir y Fflint yn dangos tuedd gyffredinol o leihad, gyda salwch yn gyfrifol am y mwyafrif o absenoldebau. Roedd y lefelau o absenoliaeth parhaus yn gymharol uchel. Yn unol â’r tueddiadau cenedlaethol, roedd y lefelau o waharddiadau parhaol a chyfnod penodol yn cynyddu, yn enwedig o fewn ysgolion uwchradd.

 

Cododd y Cynghorydd Dave Mackie sawl pwynt yngl?n â chysondeb a fformat y data ar bresenoldeb yn y tablau yn Atodiad 1 i’r adroddiad. Soniodd am waharddiadau a phwysleisiodd yr angen i ymgysylltu â phobl ifanc er mwyn eu cadw ym myd addysg a’r effaith y byddai hyn yn ei gael ar weddill bywyd plentyn. Siaradodd am yr angen i ddarparu cyllid digonol i ysgolion i gefnogi’r ddarpariaeth honno. Cytunodd yr Uwch Reolwr i ddiwygio fformat y data a gyflwynwyd yn y tablau ar gyfer adroddiadau yn y dyfodol ac fe ymatebodd i’r pwyntiau a godwyd gan y Cynghorydd Mackie. Cyfeiriodd hefyd at bwrpas gwaharddiadau a soniodd am y gwaith a wnaed gan ysgolion i sicrhau creadigrwydd wrth ddefnyddio cosbau. Dywedodd bod cyllid yn broblem fawr o ran sut y gallai ysgolion fod mor effeithiol a chefnogol ag yr oeddent yn dymuno bod wrth ymdrin ag ymddygiad amhriodol. 

 

Dywedodd yr Uwch Reolwr y byddai’r Awdurdod yn cyflwyno cais am gyllid grant ar gyfer iechyd meddwl a byddai modd ei ddefnyddio ar gyfer hyfforddiant a phecynnau unigol i gefnogi a chynorthwyo pobl ifanc.  Soniodd hefyd am yr angen i weithio’n agos â’r Bwrdd Iechyd i sicrhau bod y systemau a’r gwasanaethau a oedd yn cael eu darparu gan ysgolion mor effeithiol â phosibl. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog fod yr adroddiad ysgolion unigol gan Estyn yn nodi bod ymddygiad disgyblion yn ysgolion Sir y Fflint yn dda. Fodd bynnag, roedd angen cydnabod bod pobl ifanc yn fwyfwy agored i faterion yn ymwneud â chyffuriau a’r effaith yr oedd profiadau anodd yn ystod plentyndod yn ei gael ar blant. I gloi, soniodd y Prif Swyddog am yr angen am ymyrraeth arbenigol a dywedodd bod “plentyn wedi’i wahardd yn blentyn mewn perygl”. Dywedodd bod disgwyl i ysgolion wneud y penderfyniad i wahardd disgybl yn ofalus iawn ac ystyried a oedd dewis arall i ymdrin â’r mater ar yr pryd. 

 

Fe soniodd Mr David Hytch am absenoldebau anawdurdodedig yn ystod y tymor.  Roedd yr Uwch Reolwr yn cydnabod y pwyntiau a godwyd a dywedodd y byddai ysgolion yn cael eu herio yngl?n â lefel yr absenoldeb y maent yn ei awdurdodi, a allai arwain at lefel gynyddol o absenoldeb anawdurdodedig ar draws y sir. Dywedodd hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi dweud y gall disgyblion gael 10 diwrnod o wyliau sy’n gysylltiedig ag absenoldeb fesul blwyddyn academaidd, ac ychydig iawn o blant yn Sir y Fflint sy’n cymryd mwy na’r lwfans 10 diwrnod.

 

Soniodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin am y cyfraniad gwerthfawr a wnaed gan sefydliadau trydydd sector i helpu pobl ifanc oresgyn eu hanawsterau. 

 

Soniodd y Cynghorydd Gladys Healey am y rhestr aros i weld seicolegydd plentyn a dywedodd fod angen cyflogi mwy o staff arbenigol i ymdrin â materion iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc. Soniodd hefyd am effaith bwlio mewn ysgolion ac fe ddywedodd y gallai hyn achosi problemau i blant yn ddiweddarach yn eu bywydau. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog fod gan yr holl ysgolion bolisïau rheoli ymddygiad cadarn wedi’u dylunio i hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol gan ddisgyblion ac i amlinellu’r canlyniadau os nad oeddent yn ymddwyn yn briodol. Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y gwaith sylweddol a wnaed mewn ysgolion i hyrwyddo iechyd a lles a’r systemau oedd ar waith i sicrhau fod materion ymddygiadol yn cael eu rheoli a’u cefnogi’n gyflym ac yn effeithiol.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)     Nodi’r adroddiad; a

 (b)      Bod y Pwyllgor yn nodi’r cyfraniad a wnaed gan sefydliadau trydydd sector i gefnogi’r plant hynny dan fygythiad.