Mater - penderfyniadau
Forward Work Programme and Action Tracking (S & H)
13/10/2020 - Forward Work Programme and Action Tracking
Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol a thynnodd sylw at yr eitemau sydd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf y Pwyllgor sydd i’w gynnal ar 30 Ionawr. Cyfeiriodd at gyflwyniad ar y Storfa Cyfarpar Cymunedol Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWCES) i roi diweddariad i Aelodau ar y gwaith sydd wedi’I gyflawni yn y storfa cyfarpar. Hefyd dywedodd yr Hwylusydd y cynhelir cyfarfod o’r Pwyllgor sydd wedi’i drefnu ar gyfer 26 Mawrth 2020 yn Hwb Cyfle. Rhoddodd wahoddiad i’r Aelodau gysylltu â hi neu’r Cadeirydd os hoffent ychwanegu unrhyw eitemau pellach at y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu adroddiad ar gynnydd am gamau gweithredu yn codi o gyfarfodydd blaenorol. Adroddodd nad oedd unrhyw gamau heb eu cymryd.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod fersiwn drafft y Rhaglen Waith i’r Dyfodol fel y cyflwynwyd, yn cael ei chymeradwyo;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu heb eu cwblhau.