Mater - penderfyniadau
Forward Work Programme and Action Tracking (OC)
14/04/2020 - Forward Work Programme and Action Tracking
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu yr adroddiad a oedd yn amlinellu Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol drafft presennol y Pwyllgor. Tynnodd sylw at yr eitemau a drefnwyd ar y Rhaglen i’w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor, i’w gynnal 16 Mawrth.
Yn dilyn awgrym gan y Cynghorydd Tudor Jones, cytunwyd y byddai eitem ar Cambrian Aquatics yn cael ei chynnwys ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol i’w hystyried yng nghyfarfod y dyfodol o’r Pwyllgor.
Rhoddodd yr Hwylusydd ddiweddariad ar olrhain camau gweithredu a chyfeiriodd at y cam gweithredu a gododd o gyfarfod 1 Gorffennaf, yngl?n â Gwasanaeth Teledu Cylch Cyfyng y Cyngor a Gwasanaeth a Rennir gyda Wrecsam, a oedd ar y gweill. Rhoddodd wybod fod pob cam gweithredu arall wedi’i gwblhau.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y’i cyflwynwyd, yn cael ei chymeradwyo;
(b) Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen;
(c) Bod eitem ar Cambrian Aquatics yn cael ei chynnwys ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol i’w hystyried yng nghyfarfod y dyfodol o’r Pwyllgor; a
(d) Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu heb eu cwblhau.