Mater - penderfyniadau
Forward Work Programme and Action Tracking (Env)
02/10/2020 - Forward Work Programme and Action Tracking
Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol. Rhoddodd wybod y byddai eitem ar adroddiad yr Ombwdsman ar ymchwiliad yn erbyn Sir y Fflint i wasanaeth golchi ceir a oedd yn achosi niwsans statudol o s?n a chwistrelliad cemegol/d?r, yn cael ei chynnwys ar raglen y cyfarfod nesaf 10 Mawrth. Holodd y Cynghorydd Derek Butler a ellid rhoi ystyriaeth hefyd i wasanaeth golchi ceir ym Mrychdyn. Cytunodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) i roi adroddiad ar reoleiddio gwasanaethau golchi ceir yn Sir y Fflint, yng nghyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol.
Cytunwyd y byddai’r eitemau canlynol a drefnwyd ar gyfer cyfarfod 10 Mawrth, yn cael eu gohirio tan ddyddiad hwyrach:
- Trydaneiddio’r fflyd
- Darparu profion MOT a Chyfleoedd Masnachol eraill
Cynigiodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin yr argymhellion ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Paul Shotton.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; ac
(b) Awdurdodi’r Hwylusydd, ar ôl ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.