Mater - penderfyniadau

Forward Work Programme and Action Tracking

11/02/2020 - Forward Work Programme and Action Tracking

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol presennol a’r wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu a oedd yn codi o gyfarfodydd blaenorol. O ran Gorfodi Amgylcheddol, dywedodd y byddai’r polisi yn cael ei anfon i Gynghorau Tref a Chymuned pan fyddai wedi’i gymeradwyo gan y Cabinet a bod Datganiad y Gyllideb ar fin cael ei ddosbarthu.

 

Roedd y Pwyllgor yn cefnogi’r awgrym y dylai Newid Hinsawdd fod yn bwnc ar gyfer gweithdy i’r holl Aelodau ym mis Chwefror 2020.  Gofynnodd y Cadeirydd bod unrhyw gwestiynau yn cael eu cyflwyno iddo o flaen llaw.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Peers a oedd y pum cwestiwn ‘prawf arwyddocâd’ a ddefnyddir i nodi eitemau ar gyfer rhaglenni’r dyfodol yn berthnasol i bob pwyllgor ac a oeddent wedi’u cynnwys yn y Cyfansoddiad.  Awgrymodd fod chweched cwestiwn yn cael ei gynnwys o ran a oedd y mater yn berthnasol i’r cyhoedd neu i Aelodau. Cefnogwyd awgrym yr Hwylusydd, sef bod hyn yn cael ei gyfeirio i’r Cyfansoddiad a’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

 

Cafodd yr argymhellion, a newidiwyd i adlewyrchu’r drafodaeth, eu cynnig gan y Cynghorydd Peers ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Hardcastle.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, gan gynnwys y gweithdy Aelodau am Newid Hinsawdd ym mis Chwefror;

 

(b)       Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen;

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau; a

 

(d)       Bod yr awgrym am chweched cwestiwn ‘prawf arwyddocâd’ yn adran 1.02 yr adroddiad yn cael ei gyfeirio i’r Cyfansoddiad a’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.