Mater - penderfyniadau
Forward Work Programme and Action Tracking (Env)
14/10/2020 - Forward Work Programme and Action Tracking
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol presennol ac amlinellwyd yr eitemau a restrwyd ar gyfer y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor i’w gynnal ar 10 Rhagfyr.
Roedd yr Hwylusydd hefyd yn cyfeirio at y camau oedd yn codi o’r cyfarfodydd blaenorol oedd ynghlwm i’r adroddiad ac adroddwyd ar gynnydd wrth eu cwblhau.
Cynigiwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Paul Shotton ac fe'i heiliwyd gan y Cynghorydd Sean Bibby.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor fel y cyflwynwyd, yn cael ei chymeradwyo;
(b) Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.