Mater - penderfyniadau
Forward Work Programme and Action Tracking (C & E)
31/03/2020 - Forward Work Programme and Action Tracking (C & E)
Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ddiweddaraf, na wnaed unrhyw newidiadau iddi. O ran Olrhain Camau Gweithredu, roedd mwyafrif y camau gweithredu oedd yn codi o’r cyfarfodydd blaenorol wedi cael eu cwblhau.
Soniodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin am gytundeb blaenorol y byddai swyddog yn cysylltu â hi i drafod ei phryderon, yn dilyn ei chais am adroddiad i gyfarfod yn y dyfodol ar y Polisi SARTH. Cytunodd yr Hwylusydd i ddilyn hyn i fyny ar ôl y cyfarfod.
Roedd y Cynghorydd Dennis Hutchinson yn mynegi pryder ei fod wedi gofyn am eitem o’r blaen ar y broses Dyraniadau ac nad oedd hyn wedi’i gynnwys ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol. Cafodd y cais hwn ei gymeradwyo gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Patrick Heesom. Ymddygiad er mwyn dangos dewisiadau sydd ar gael i Swyddogion Tai wrth ddelio gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Roedd hwn wedi’i gynnwys ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol a byddai’n cael ei gyflwyno i’r cyfarfod ar 29 Ebrill 2020.
Cafodd yr argymhellion o fewn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Patrick Heesom a’u heilio gan y Cynghorydd Ted Palmer.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn ystyried y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol drafft a chymeradwyo/newid fel bo’r angen;
(b) Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.