Mater - penderfyniadau
Forward Work Programme and Action Tracking
27/11/2019 - Forward Work Programme and Action Tracking
Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith I'r Dyfodol, ynghyd â’r diweddaraf am y camau gweithredu oedd yn codi o’r cyfarfodydd blaenorol, oedd bellach wedi cael eu cwblhau. Rhoddodd wybod bod y sesiwn hyfforddiant hanner awr am ddiogelu wedi cael ei chynnal cyn y cyfarfod ac felly byddai’n cael ei thynnu o’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.
Gofynnodd y Cynghorydd Ted Palmer pe gellid darparu adroddiad am Hawliau Tenantiaid i Olyniaeth mewn cyfarfod yn y dyfodol er mwyn adolygu’r polisi cyfredol.
Cododd y Cynghorwyr Hutchinson a Dolphin bryderon am ddyraniadau eiddo a dyraniadau mewn llety gwarchod. Dywedodd yr Hwylusydd bod y Cynghorwyr wedi cytuno mewn cyfarfod blaenorol y byddai adroddiad am Denantiaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei gyflwyno gerbron cyfarfod yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.
(b) Awdurdodi’r Hwylusydd, ar ôl ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu heb eu cwblhau.