Mater - penderfyniadau
Strategic Risk Management Update
29/11/2019 - Strategic Risk Management Update
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a roddodd drosolwg lefel uchel o'r dull strategol o reoli risg.
Defnyddiwyd y model pedwar blwch yn yr adroddiad ar gyfer nodi a dwysáu risgiau sy'n dod i'r amlwg ar y cam cywir. Nodwyd hefyd enghreifftiau o risgiau o Gynllun cyfredol y Cyngor. Byddai adroddiad llawn ar y Strategaeth Rheoli Risg wedi'i diweddaru yn cael ei drefnu ar gyfer y cyfarfod nesaf.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Dunbar at yr enghraifft ar y Strategaeth Ddigartrefedd a rhoddodd y Prif Weithredwr ddiweddariad byr iddi ar ystod o fentrau gan gynnwys datrysiadau tai â chymorth.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cael ei sicrhau gan ddull strategol y Cyngor o reoli risg; a
(b) Bod y Pwyllgor yn derbyn fersiwn ddiwygiedig o'r Strategaeth Rheoli Risg yn y cyfarfod nesaf.