Mater - penderfyniadau

Extra Care Strategy inc. update on Holywell

13/10/2020 - Extra Care in Flintshire

Gwahoddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol), y Rheolwr Cofrestredig Adnoddau a Gwasanaethau Rheoledig, Mark Holt i roi diweddariad ar y tri chynllun gofal ychwanegol gweithredol a’r bedwerydd cynllun oedd fod i ddechrau ym mis Chwefror 2020.

 

Rhoddodd y Rheolwr Cofrestredig Adnoddau a Gwasanaethau Rheoledig, drosolwg o’r cynlluniau gofal ychwanegol yn Llys Eleanor, Shotton, Jasmine, yr Wyddgrug a Llys Raddington, y Fflint. Dywedodd bod y cynlluniau yn darparu datrysiadau llety â chymorth oedd tu hwnt i unrhyw ffurf arall o ddarpariaeth ac yn llwyddiannus iawn ac wedi eu gordanysgrifio. Disgwylir i’r bedwaredd cynllun (Plas yr Ywen, Treffynnon) gael ei gwblhau ym mis Ionawr 2020 gan agor ar 24 Chwefror 2020 a gwahoddodd y Pwyllgor i ymweld â’r cyfleusterau newydd. 

 

Yn ystod y drafodaeth, ymatebodd y Rheolwr Cofrestredig i’r cwestiynau a godwyd gan y Cadeirydd o ran y ddarpariaeth o ofal diwedd bywyd.  Gofynnodd y Cynghorydd Paul Cunningham os oedd ceisiadau gan breswylwyr lleol ar gyfer cynlluniau gofal ychwanegol yn cael eu blaenoriaethu dros geisiadau gan bobl oedd yn byw tu hwnt i Sir y Fflint.  Dywedodd y Rheolwr Cofrestredig bod meini prawf llym o ran dyrannu’r fflatiau ac roedd angen i bobl fod yn byw yn Sir y Fflint neu bod â chysylltiadau cryf gyda Sir y Fflint.  

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Carol Ellis am yr angen am gynllun gofal ychwanegol ym Mwcle, eglurodd y Rheolwr Cofrestredig y gallai Sir y Fflint gyflawni cynllun pellach yn y dyfodol, yn seiliedig ar lwyddiant y gofal ychwanegol hyd yma a’r rhagolygon o ran angen y boblogaeth h?n, pe byddai’r lleoliad iawn ar gael ar gyfer datblygu. Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y cyllid ar gyfer datblygiad newydd yn ardal Bwcle a dywedodd y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn y Flwyddyn Newydd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Paul Cunningham yr argymhellion yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Mike Lowe.

 

PENDERFYNWYD

 

Nodi’r wybodaeth ddiweddaraf a'r pedwar cynllun gofal ychwanegol a chefnogi’r Strategaeth Gofal Ychwanegol yn Sir y Fflint.