Mater - penderfyniadau

Childcare Offer in Wales, Flintshire

04/02/2020 - Childcare Offer for Wales, Flintshire

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gofal Cymdeithasol) adroddiad yn amlinellu sut y gall rhagor o deuluoedd gael eu cefnogi i gael mynediad at y Cynnig Gofal Plant 30 awr a’r cynigion am fuddsoddiad cyfalaf i gefnogi’r gwaith hwn.Darparodd wybodaeth gefndir ac esboniodd mai nod y Cynnig oedd helpu i gefnogi teuluoedd gyda gofal o ansawdd sy’n hyblyg, ac yn fforddiadwy. Roedd yn cefnogi adfywio economaidd ac yn lleihau'r pwysau ar incwm y teulu hefyd, ac yn helpu rhieni i gael gwaith gan leihau perygl y teulu o dlodi. 

 

Adroddodd y Prif Swyddog bod y Cynnig Gofal Plant wedi bod yn llwyddiannus yn Sir y Fflint, a fyddai o fudd i deuluoedd, y sector gofal plant a chymunedau. Oherwydd ei lwyddiant, gofynnwyd am nawdd ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, a cafodd hyn ei gymeradwyo yn ddiweddar.Adroddodd ar y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad, a cyfeiriodd at y cynnydd wrth ddatblygu a darparu'r Cynnig Gofal Plant i Gymru yn Sir y Fflint, Cynllun Cyfathrebu Gwybodaeth ac Ymgysylltiad, nawdd grantiau cyfalaf, cytundeb trwyddedu meddalwedd Cynnig Gofal Plant Sir y Fflint, system cenedlaethol a pheilot Hawl Bore Oes o £4.50 yr awr.  

 

Llongyfarchodd y Cynghorydd Dave Mackie y Prif Swyddog a’i dîm ar lwyddiant Cynnig Gofal Plant Sir y Fflint a gofynnodd bod diolch yn cael ei basio ymlaen i bawb arall a gyfrannodd eu gwaith caled. Cynigodd bod llythyr yn cael ei anfon i’r Cadeirydd gan Swyddogion a staff i fynegi gwerthfawrogiad y Pwyllgor o’r gwaith sy’n cael ei gynnal i gefnogi teuluoedd i gael mynediad i’r cynnig.  

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Derbyn yr adroddiad; a

 

 (b)     Bod llythyr yn cael ei anfon gan y Pwyllgor i’r Rheolwr Blynyddoedd Cynnar a Chefnogaeth i’r Teulua’i thîm, i fynegi gwerthfawrogiad y Pwyllgoro’r gwaith sy’n cael ei wneud i gefngoi teuluoedd i gael mynediadi’r Cynnig.