Mater - penderfyniadau

Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018

01/11/2019 - Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Chynnydd) a roddodd yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (ALNET) a dderbyniodd gydsyniad Brenhinol ym mis Ionawr 2018, ac a gaiff ei rhoi ar waith ym mis Medi 2020.  Esboniodd fod angen llawer o waith i sicrhau bod ysgolion a phartneriaid yn barod a rhoddodd wybodaeth am amcanion cyffredinol y Ddeddf.  Cyhoeddwyd Cod drafft sy’n amlinellu dyletswyddau gweithredol y Ddeddf ac a oedd yn amodol ar ymgynghoriad yn gynharach eleni.  Lluniwyd ymateb gan y Cyngor a oedd yn cynnwys mewnbwn gan amryw o bartneriaid gan gynnwys y Cyngor Ieuenctid. Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried ymatebion yr ymgynghoriad ac mae disgwyl i’r Cod terfynol gael ei gyflwyno gerbron y Cynulliad yn yr hydref gyda’r nod o’i gyhoeddi erbyn diwedd mis Rhagfyr 2019.  Oherwydd yr amserlen hon, esboniodd fod y tîm wedi cael adnoddau ychwanegol i sicrhau bod cymorth di-dor ar gael i’r bobl ifanc pan ddaw’r ddeddf i rym.  Lluniwyd cynllun gweddnewid ar gyfer y Cyngor, fodd bynnag, mae’r amserlen yn dynn iawn o ystyried dyddiad cyhoeddi arfaethedig y Cod terfynol.

 

Roedd yn destun pryder bod y Ddeddf hon wedi cael ei disgrifio gan Lywodraeth Cymru fel un niwtral o ran cost ond bydd ei goblygiadau o ran adnoddau yn ddifrifol iawn i’r Cyngor. 

 

Yna aeth yr Uwch Reolwr ati i restru’r goblygiadau i’r Cyngor yn sgil y newidiadau hyn:-

 

·         Er enghraifft, roedd angen cael Swyddog Anghenion Dysgu Ychwanegol ar gyfer y blynyddoedd cynnar i adnabod y plant ag anghenion dysgu ychwanegol a rhoi darpariaeth ym mhob lleoliad, ac nid yw hyn yn rhywbeth sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd.

 

·         Roedd yn ofynnol i gael cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol ym mhob ysgol; yn yr achosion hynny lle mae’r pennaeth yn cyflawni’r rôl hon ar hyn o bryd, mae’n debygol y bydd yn rhaid i rywun arall ei chyflawni o ystyried y cyfrifoldebau ychwanegol fydd yn cael eu rhoi i’r ysgolion gan y Ddeddf.

 

·         Bydd yr ystod oedran yn codi i 25 oed, gan gynnwys rhoi cymorth i bobl ifanc mewn addysg bellach; ar hyn o bryd, mae gwasanaethau yn rhoi cymorth i bobl ifanc hyd at 19 oed sy’n mynychu ysgol.

 

·         Y ddyletswydd i gomisiynu darpariaeth arbenigol ar gyfer pobl ifanc 16-25 oed; Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am hyn ar hyn o bryd. Rhoddwyd gwybodaeth am y Gweithgor a fyddai’n ystyried y mecanwaith ar gyfer ariannu’r ddarpariaeth hon. Bydd y ddyletswydd hon yn dod i rym o 2021 ymlaen.

 

·         Byddai’r Swyddog Plant sy’n Derbyn Gofal yn gyfrifol am ysgrifennu’r Cynlluniau Datblygu Unigol – ar hyn o bryd mae’r Datganiad Anghenion Dysgu Arbennig yn cael ei ysgrifennu gan yr awdurdod lle mae’r plentyn sy’n derbyn gofal yn byw, fodd bynnag, o dan y Ddeddf newydd swyddogion Sir y Fflint fydd yn gyfrifol am y gwaith hwn. 

 

·         Gallai’r Cyngor fod yn gyfrifol am nodi anghenion dysgu ychwanegol pobl ifanc yn y ddalfa – byddai’r ddarpariaeth yn cael ei rhoi ar waith ar gyfer y cyfnod pan fyddent yn cael eu rhyddhau.

 

·         Addysg ddewisol yn y cartref – gallai’r Cyngor fod yn gyfrifol am gyllido’r ddarpariaeth dysgu ychwanegol petai gan blentyn anghenion dysgu ychwanegol – Nid ydym yn derbyn cyllid ar gyfer hyn ar hyn o bryd ac roedd Llywodraeth Cymru yn ystyried y mater.

 

·         Cyngor cyfreithiol arbenigol ychwanegol i gefnogi’r Cyngor mewn achosion tribiwnlys.

 

·         System TG ychwanegol i hwyluso’r broses newydd. Mae gr?p rhanbarthol wedi bod yn edrych ar ofynion y system a chwblhawyd astudiaeth ddichonoldeb. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod manteision system TG genedlaethol ac mae wedi bod mewn cysylltiad â’r gr?p rhanbarthol i drafod adeiladu ar y gwaith a gyflawnwyd hyd yma.

 

Roedd Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet Addysg yn cofio ei fod wedi bod mewn cyfarfod gyda’r Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) lle dywedodd y Gweinidog Addysg y byddai cyflwyno’r Ddeddf yn niwtral o ran cost. Fodd bynnag, mewn gwirionedd, roedd disgwyl i gostau’r Cyngor fod tua £500,000. Mae Llywodraeth Cymru eisiau deddfu i drosglwyddo’r cyfrifoldeb i awdurdodau lleol ond gyda’r cyfrifoldeb hwnnw roedd angen yr adnoddau i dalu amdano. 

 

Diolchodd y Cynghorydd David Healey i’r Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Chynnydd) am ei hadroddiad ac am dynnu sylw at y goblygiadau ariannol. Roedd yn cytuno ag argymhelliad yr adroddiad y dylid codi’r goblygiadau ariannol gyda Gweithgor Trawsbleidiol y Cyngor ond dywedodd fod y Cyngor yn dal i fod mewn sefyllfa o lymder cyffredinol a oedd yn debygol o barhau am gyfnod amhenodol ac felly roedd angen cyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru.

 

Awgrymodd  y Cadeirydd y dylai hi, ar y cyd â Chadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid, ysgrifennu llythyr at y Gweinidog Addysg yn amlinellu pryderon y Pwyllgor ynghylch goblygiadau’r Ddeddf o ran adnoddau’r Awdurdod Lleol a’r ysgolion.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)     Y dylid nodi’r adroddiad;

 

(b)     Y dylai’r Aelodau godi ymwybyddiaeth Gweithgor Trawsbleidiol y Cyngor am y pwysau ariannu posibl o ganlyniad i’r ddeddfwriaeth; ac

 

(c)     Y dylid ysgrifennu llythyr, ar ran y Pwyllgor, at Weinidog Addysg Llywodraeth Cymru yn amlinellu pryderon y Pwyllgor ynghylch goblygiadau’r Ddeddf o ran adnoddau’r Awdurdod Lleol ac ysgolion.