Mater - penderfyniadau

All Wales Concessionary Travel Scheme – Replacement of Travel Cards (Bus Passes)

16/12/2019 - All Wales Concessionary Travel Scheme – Replacement of Travel Cards (Bus Passes)

Cyn dechrau ystyried yr adroddiad am ddisodli cardiau teithio, amlygodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad y problemau diweddar gyda methiant cronfa ddata Trafnidiaeth Cymru. Pwysleisiodd nad oedd y tocynnau bws cyfredol yn dod i ben tan 31 Rhagfyr 2019 ac y gallai unrhyw un ymgeisio ar ran rhywun arall cyn belled â bod ganddynt y wybodaeth berthnasol.Dywedodd bod copïau PDF ar gael i’w lawrlwytho o wefan Trafnidiaeth Cymru.  Diolchodd y Cadeirydd i’r Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad am arwain ar y gwaith hwn.

 

                        Holodd y Cynghorydd Dolphin a oedd y cyfraniad o £173k gan Sir y Fflint yn daliad unigryw neu’n gyfraniad blynyddol. Roedd yr Aelodau’n awyddus i’r cyhoedd gael mwy o wybodaeth am y rhesymau tu ôl i pam roedd angen i’r tocynnau gael eu hadnewyddu a sut allen nhw wneud cais amdanynt gan fod y cyhoedd yn pryderu eu bod yn wastraff arian. Awgrymodd y Cynghorydd Shotton bod aelodau’n rhoi’r wybodaeth ar eu cyfryngau cymdeithasol.

 

                        Eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) bod y ffi yn dyddio’n ôl i pan roedd y Cyngor yn cynnal y Cynllun Teithio Rhatach ac ers i Lywodraeth Cymru gymryd y gwasanaeth drosodd, roedd hyn yn gyfraniad parhaus. Ychwanegodd hefyd bod y cynllun wedi bod mewn grym ers 10 mlynedd a bod angen ei ddiweddaru gan fod nifer o bobl wedi symud neu bod eu manylion wedi newid. Roedd taflenni wedi cael eu dosbarth yn rhoi cyngor am y mater ac roedd Swyddfeydd Sir y Fflint yn Cysylltu yn gallu helpu gyda cheisiadau hefyd.  Cytunodd y Prif Swyddog i godi materion a godwyd gan Aelodau’r Pwyllgor gyda Thrafnidiaeth Cymru.

 

                        Cefnogwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Bibby a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd Shotton.

           

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r broses i roi Cardiau Teithio Rhatach newydd i bob preswyliwr cymwys yn Sir y Fflint.