Mater - penderfyniadau

Standards Committee Forum for North and Mid Wales

18/10/2019 - Standards Committee Forum for North and Mid Wales

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad i roi adborth gan Fforwm y Pwyllgor Safonau ar gyfer Gogledd a Chanolbarth Cymru. Darparodd wybodaeth gefndir a chyfeiriodd at y materion allweddol, fel y manylir arnynt yn yr adroddiad, y dylai'r Pwyllgor eu hystyried. Roedd cofnodion drafft cyfarfod Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru a gynhaliwyd ar 24 Mehefin 2019, ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

                        Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at yr argymhellion arfer gorau a allai fod yn berthnasol o adroddiad y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus a dywedodd er na allai'r Cyngor newid deddfwriaeth y gallai fabwysiadu'r argymhellion yn wirfoddol lle nad oeddent eisoes mewn grym. Gofynnwyd i'r Pwyllgor ystyried yr argymhellion fel y'u nodwyd yn yr adroddiad.

 

                        Argymhellodd y Pwyllgor y dylai'r Cyngor roi'r argymhellion arfer gorau canlynol ar waith:

 

R6       Cod i'w gwneud yn ofynnol i gofrestru rhoddion / lletygarwch dros £50 neu dros £100 y flwyddyn oddi wrth un ffynhonnell

 

R19     I glercod plwyf fod yn gymwysedig - awgrymwyd y gallai hyn gael ei godi yn y cyfarfod ar y cyd â Chynghorau Tref a Chymuned i'w gynnal ar 30 Medi.

 

R24     Cynghorwyr i fod yn “bersonau rhagnodedig” yn Neddf Datgelu er Budd y Cyhoedd 1998

 

BP4    Cod ar gael yn rhwydd mewn safle amlwg ar wefan awdurdod lleol - awgrymwyd y gallai fod mwy o dryloywder yngl?n â hyn

 

BP5    Awdurdodau lleol i ddiweddaru cofrestrau rhoddion a lletygarwch bob chwarter a'u gwneud ar gael

 

BP11 Cwynion Safonau am ymddygiad aelod neu glerc i’w gwneud gan y Cadeirydd neu'r Cyngor Plwyf (Cymuned) yn gyffredinol - awgrymwyd y gallai hyn gael ei godi yn y cyfarfod ar y cyd â Chynghorau Tref a Chymuned i'w gynnal ar 30 Medi.

 

BP15 Uwch swyddogion i gwrdd yn rheolaidd ag arweinwyr gr?p neu chwipiau yngl?n â safonau - awgrymwyd y gallai Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Safonau gwrdd ag Arweinydd y Cyngor a'r Swyddog Monitro i drafod safonau o fewn y Cyngor ddwywaith y flwyddyn. 

 

Cytunodd y Swyddog Monitro i ddarparu adroddiad ar y cynnydd ar argymhelliad BP15 yng nghyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhelir ar 4 Tachwedd 2019.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro fod 8 Pwyllgor Safonau ar draws rhanbarth Gogledd Cymru (gan gynnwys yr Awdurdod Tân ac Achub a'r Parc Cenedlaethol). Roedd pob un yn ymdrin â meysydd cyfrifoldeb tebyg ac yn cwrdd yn aml ar sail llwyth gwaith. Ers 2016 roedd yn ddeddfwriaethol bosibl cael Cyd-bwyllgorau Safonau i wasanaethu dau awdurdod neu fwy. Ynghlwm wrth yr adroddiad roedd cyflwyniad ar y risgiau a'r materion ar gyfer creu un neu fwy o Bwyllgorau Safonau ar draws rhanbarth Gogledd Cymru.

 

Gofynnodd Julia Hughes i gofnodion cyfarfod Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru a gynhaliwyd ar 24 Mehefin 2019, gael eu diwygio i gynnwys ei phresenoldeb o dan y rhai a oedd yn bresennol fel a ganlyn: Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru - Julia Hughes (Is-gadeirydd).

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Y dylai swyddogion gysylltu â'r siroedd hynny a nodwyd gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus fel rhai sy'n cynrychioli arfer da i weld pa welliant y gellid ei wneud i hyfforddiant moesegol y Cyngor;

 

(b)       Y dylai'r Cyngor roi'r argymhellion arfer gorau hynny ar waith o adroddiad y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus fel y cytunwyd gan y Pwyllgor; a

 

(c)        Gofyn i'r Swyddogion Monitro ym mhob un o'r 6 Chyngor ynghyd â'r Awdurdod Tân a’r Parc Cenedlaethol, baratoi gyda'i gilydd ddadansoddiad manylach o sut y gellir cyflwyno un neu fwy o Bwyllgorau Safonau ar y Cyd yng Ngogledd Cymru.