Mater - penderfyniadau

Alternative Delivery Models Phase 2

19/12/2019 - Alternative Delivery Models Phase 2

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad a oedd yn ceisio sicrhau cefnogaeth ar gyfer ail gam y rhaglen ar gyfer Modelau Cyflenwi Amgen (ADM).

 

            Roedd y Cyngor wedi mabwysiadu rhaglen i drosglwyddo gwasanaethau dethol o fodelau cyflenwi uniongyrchol i ADM yn 2014.  Roedd y rhaglen hon yn rhan o strategaeth newydd ar gyfer newid sefydliadol a chafodd ei chynllunio i wneud arbedion refeniw blynyddol sylweddol fel cyfrannwr at y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, gan sicrhau’r un pryd y bydd y gwasanaethau hynny’n cael eu diogelu yn y dyfodol.  Roedd y rhaglen gychwynnol wedi’i chwblhau yn llwyddiannus.

 

            Esboniodd y Prif Swyddog (Strydlun a Thrafnidiaeth) bod rhan 2 y rhaglen yn fwy eang, gydag ystod helaeth o gysyniadau ar gyfer modelau cyflenwi gwasanaethau amgen ar gyfer gwasanaethau presennol a modelau newydd ar gyfer arloesedd gwasanaethau newydd.

 

            Gan gysylltu i’r adroddiad cynharach ar Ran 2 Cynllun y Cyngor, esboniodd y Cynghorydd Jones bod yr adroddiad yn darparu eglurder ar Micro-ofal (Microcare).  Roedd yn ddull arloesol o ddatblygu modelau cymorth gofal yn lleol drwy gwmnïau cydweithredol neu fentrau cymdeithasol, fel ffordd o atgyfnerthu’r ddarpariaeth ehangach o ofal cartref oherwydd prinder yn y ddarpariaeth annibynnol.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Thomas at yr opsiynau lefel uchel a oedd wedi’u hamlinellu ar gyfer y Gwasanaethau Masnachu Strydlun a Thrafnidiaeth.  Esboniodd nad oedd unrhyw gymeradwyaeth wedi’i sicrhau hyd yma ond y gellir archwilio’r posibilrwydd o fasnachu mewn meysydd gwasanaeth penodol, yr oedd gan y Cyngor yr arbenigedd estynedig, e.e. MOT cerbydau preifat a goleuadau stryd.

 

            Esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod pedwar cam yn natblygiad a gweithrediad modelau cyflenwi amgen neu newydd, sef:

 

            Cam 1:  Prawf o gysyniad;

            Cam  2: Cynllunio, diwydrwydd dyladwy a chymeradwyaeth;

            Cam  3: Trosglwyddo i’r model newydd;

            Cam  4: Cyfnod sefydlu ar gyfer y model newydd.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       I gymeradwyo ail gam y rhaglen Model Cyflenwi Amgen a chyfeirio’r adroddiad i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol ym mis Medi i’w adolygu a rhoi sylwadau arni; a

 

(b)       Cyflwyno adroddiadau pellach i’r Cabinet, sy’n gwerthuso pob un o’r modelau gwasanaeth arfaethedig i’w hystyried cyn unrhyw benderfyniad ffurfiol ar eu dyfodol, gan nodi bod nifer o’r modelau mewn camau datblygedig a’u bod wedi (y Gwasanaeth Monitro Teledu Cylch Cyfyng) derbyn cymeradwyaeth ar wahân ymlaen llaw.