Mater - penderfyniadau
Fees and charges
14/10/2019 - Fees and charges
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i gyflwyno polisi corfforaethol cyflawn ac wedi’i ddiweddaru ar gyfer ffioedd a chostau a gwahodd adborth i’r Cabinet a fyddai’n cael ei wahodd i gymeradwyo’r polisi’n ddiweddarach yn y mis. Dywedodd fod y Polisi Cynhyrchu incwm, yn cynnwys ffioedd a chostau, a’r ffrydiau incwm newydd a nodwyd yn yr adroddiad yn rhan o’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig. Tynnodd sylw at ganlyniad yr adolygiad blynyddol o ffioedd a chostau oedd wedi’i atodi i’r adroddiad. Ar gyfer bob cost dangoswyd y graddau yr oedd y gost lawn yn cael ei hadennill, ond mae angen gwaith pellach ar hyn o hyd. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnig dull o fynegeio’r holl ffioedd a chostau’n flynyddol. Gwahoddodd y Prif Weithredwr y Rheolwr Cynhyrchu Incwm a Marchnata i gyflwyno manylion yr adroddiad.
Cyfeiriodd y Rheolwr Cynhyrchu Incwm a Marchnata at y prif ystyriaethau, fel y manylir yn yr adroddiad. Eglurodd fod cynhyrchu incwm ychwanegol o ffioedd a chostau, ynghyd â phrosiectau penodol i ystyried posibilrwydd ffrydiau incwm newydd, yn ddau ateb oedd ar gael i’r Cyngor gyfrannu at y diffyg yn y gyllideb. Nid oedd y targed o ran incwm ar gyfer 2018/19 wedi’i gyrraedd yn llawn ac roedd tua £170k o incwm ychwanegol i’w gynhyrchu i gyrraedd targed 2019/20. Dywedodd ei fod yn bwysig cadw’r ffocws ar gynhyrchu incwm a’r ffioedd a’r costau hynny y gellid eu hadolygu, neu eu cyflwyno, fel rhan o’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig. O’r 605 o ffioedd/costau a restrir yn atodiad A o’r adroddiad, dywedodd fod 36% ohonynt yn statudol a bod gan yr Awdurdod ddisgresiwn cyfyngedig, neu ddim o gwbl, o ran gosod y costau, a bod 64% yn ddewisol gyda mwy o le i ddisgresiwn lleol wrth osod y pris. Yn ogystal ag incwm o ffioedd a chostau roedd nifer o brosiectau incwm wedi’u nodi i’w hystyried ymhellach. Roedd trosolwg o’r prosiectau hyn a’r dyddiad dechrau dangosol hefyd wedi’u hatodi i’r adroddiad.
Dywedodd y Rheolwr Cynhyrchu Incwm a Marchnata mai’r bwriad oedd goruchwylio’r broses o adolygu ffioedd a chostau’n fewnol, a gweithredu unrhyw newidiadau o 1 Hydref bob blwyddyn, yn dilyn adroddiad i’r Cabinet ym mis Gorffennaf.
Dywedodd y Prif Swyddog (Strydoedd a Chludiant) y byddai adroddiad wedi’i ddiweddaru ar ffioedd a chostau’n cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor bob blwyddyn i’w adolygu.
Yn ystod y drafodaeth rhoddodd Swyddogion ymateb i’r cwestiynau a godwyd gan Aelodau yngl?n â’r costau ar gyfer gwasanaethau o dan Rheoli Pla (gan ddyfynnu’r gwahaniaeth mewn costau ar gyfer gwenyn a gwenyn meirch er enghraifft), parcio ceir, a llogi caeau Wepre a Bwcle. Hefyd holodd Aelodau ynghylch y costau’n ymwneud â chylchfannau a gofynnwyd am eglurhad ynghylch y costau ar gyfer noddi cylchfannau. Cytunodd y Prif Swyddog i roi manylion pellach i’r Pwyllgor yngl?n â chostau’n ymwneud â chylchfannau a llogi caeau Wepre a Bwcle.
Yn gynharach yn yr wythnos bu pryderon nad oedd y cynnydd yng nghostau gwastraff gardd wedi eu rhoi gerbron Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd. Eglurodd y Prif Weithredwr fod yr egwyddor o gostau eisoes wedi’i gymeradwyo a’i fod o fewn cylch gorchwyl Adnoddau Corfforaethol i awgrymu amrywio costau fel rhan o bolisi ariannol.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r polisi ac amserlen ffioedd a chostau i’w chyflwyno i’r Cabinet a fydd yn cael ei argymell i fabwysiadu’r polisi yn eu cyfarfod ar 16 Gorffennaf 2019;
(b) Bod y Pwyllgor yn nodi'r gwaith pellach y mae angen ei wneud i adennill y gost yn llawn, a/neu gyfraddau cyffelyb y farchnad, lle y bo’n bosibl/caniateir gwneud hynny;
(c) Bod y Pwyllgor yn cefnogi adolygiad parhaus o’r Polisi Cynhyrchu Incwm i sicrhau cysondeb o ran costau ac adennill costau; a
(d) Bod y pwyllgor yn nodi’r prosiectau incwm ychwanegol a nodwyd yn Atodiad B sydd wrthi’n cael eu datblygu