Mater - penderfyniadau

Capital Programme Monitoring 2018/19 (Outturn)

19/12/2019 - Capital Programme Monitoring 2018/19 (Outturn)

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Monitro’r Rhaglen Gyfalaf 2018/19 (Alldro) a oedd yn crynhoi’r newidiadau a wnaed i’r Rhaglen Gyfalaf yn ystod chwarter olaf 2018/19.

 

                        Roedd y Rhaglen Gyfalaf wedi gweld cynnydd net o £1.024 miliwn yn ystod y cyfnod, a oedd yn cynnwys:

 

·         Cynnydd net o £4.857 miliwn yn y rhaglen  (Cronfa’r Cyngor £4.792 miliwn a HRA £0.065 miliwn); a

·         Swm Net  o £3.833 miliwn i’w Gario Ymlaen i 2019/20, sy’n cynnwys £1.815 miliwn (Grant ychwanegol Cynnal a Chadw Ysgolion) (£2.043 miliwn) wedi’i wrthbwyso’n rhannol gan wrthdroad Cario Ymlaen o £0.025 miliwn.

 

Y gwariant gwirioneddol oedd £66.423 miliwn.

 

Yr alldro terfynol ar gyfer 2017/18 oedd diffyg cyllid bychan o £0.068 miliwn.  Bu nifer o dderbynebau cyfalaf yn ystod y flwyddyn a chynnydd bychan mewn cyllid cyfalaf, a gyhoeddwyd yn y Setliad Terfynol.  Yn ogystal, ym mis Tachwedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £100 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol wedi’i ledaenu o 2018/19 i 2020/21.  O’u hystyried gyda’i gilydd, gyda diffyg gwreiddiol amcangyfrifedig o £8.216 miliwn yn rhaglen gyfalaf 2018/29 i 2020/21 y diffyg ariannol presennol ar gyfer y cyfnod tair blynedd yw £1.187 miliwn.

 

PENDERFYNWYD:

           

(a)       Y byddai’r adroddiad cyffredinol yn cael ei gymeradwyo;

 

            (b)       Y gellir cymeradwyo’r addasiadau cario ymlaen.