Mater - penderfyniadau
Council Plan 2019/20 - Part 2
19/12/2019 - Council Plan 2019/20 - Part 2
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin Gynllun y Cyngor 2019/20 – Rhan 2 a oedd yn darparu’r dull i fesur cynnydd a chyflawniad blaenoriaethau’r Cyngor yn Rhan 1 y Cynllun.
Esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod Rhan 1 y Cynllun wedi’i gymeradwyo gan y Cyngor Sir ym mis Mehefin 2019 ac y byddai dwy ran y Cynllun ar gael ar wefan y Cyngor erbyn diwedd Gorffennaf fel dogfen a fyddai’n fwy hygyrch yn ddigidol a graffigol.
Cyflwynwyd Rhan 2 y Cynllun hefyd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol, fel y ddogfen derfynol i’w defnyddio gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu i adolygu cynnydd yn ystod y flwyddyn ar sail chwarterol. Roedd yr adborth a dderbyniwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Dynol ar sut y gellir mesur llwyddiant a chynnydd fel a ganlyn:
· Darparu esboniadau ar ddangosyddion sydd wedi’u lleihau;
· Cynnwys rhestr lawn o fesurau atebolrwydd cenedlaethol;
· Trefnu gweithdy ar werth cymdeithasol;
· Cynnwys i’w ddarparu ar gyllid a grantiau hyblyg;
· Mae angen mwy o eglurder ar hawliadau budd-daliadau a’r hyn yr oedd y Cyngor yn ceisio ei gyflawni;
· Esboniad o Micro-ofal (Microcare);
· Gwybodaeth am dechnoleg ar gyfer cynnal a chadw ffyrdd;
· Gwybodaeth fwy penodol ar ofal ychwanegol ac a fyddai’r galw yn cael ei gyflawni.
Dywedodd y Cynghorydd Thomas ei bod yn bwysig sefydlu gwerth cymdeithasol y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan y Cyngor.
PENDERFYNWYD:
I gymeradwyo Rhan 2 Cynllun y Cyngor 2019/20 i gefnogi monitro ac asesu’r cynnydd yn erbyn blaenoriaethau Rhan 1 Cynllun y Cyngor, gan gynnwys y diwygiadau a awgrymwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.