Mater - penderfyniadau

Treasury Management Annual Report 2018/19 and 2019/20 Quarter 1 Update

07/10/2019 - Treasury Management Annual Report 2018/19 and 2019/20 Quarter 1 Update

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid - Cyfrifeg Dechnegol yr Adroddiad Blynyddol drafft ar Reoli’r Trysorlys yn 2018/19 i’w adolygu a’i argymell i’r Cabinet. Darparwyd hefyd, er gwybodaeth, y wybodaeth ddiweddaraf yn Chwarter 1 yngl?n â materion a oedd a wnelont â Pholisi Rheoli’r Trysorlys, Strategaethau ac Arferion, ynghyd â’r cylch adrodd.

 

Wrth baratoi ar gyfer cymeradwyo Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2020/21, gwahoddid pob Aelod i’r sesiwn hyfforddiant blynyddol y byddai’r Ymgynghorwyr Rheoli Trysorlys yn ei gynnal fis Rhagfyr.  Dosberthid manylion y sesiwn hyfforddiant ar ôl eu cadarnhau.

 

Wrth fwrw golwg dros weithgarwch Rheoli’r Trysorlys yn nhri mis cyntaf 2019/20, nodwyd fod y Cyngor wedi codi benthyciadau ychwanegol tua diwedd mis Mawrth 2019/20, yn unol â’r strategaeth fenthyca.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Carver, rhoes y Rheolwr Cyllid fraslun o’r strategaeth fenthyca gan esbonio sut codwyd benthyciadau unigol gan ystyried proffil aeddfedu’r dyledion ar y pryd.  Câi’r angen ei fenthyca ei gydbwyso â’r gofynion ariannu cyfalaf, a oedd yn dueddol o gynyddu yn sgil gwariant cyfalaf wedi’i ariannu drwy fenthyca, ac yn lleihau yn sgil Darparu Isafswm Refeniw.  Roedd y rheoliadau Darparu Isafswm Refeniw’n gofyn i gynghorau neilltuo cyllid refeniw ar gyfer ad-dalu dyledion a oedd yn effeithio ar y sefyllfa gyffredinol o ran benthyciadau drwy leihau’r cyllid cyfalaf gofynnol. Cytunodd y Rheolwr Cyllid i gynnwys mwy o fanylion am hyn yn y sesiwn hyfforddiant oedd i ddod.

 

O ran y portffolio buddsoddiadau, holodd y Cynghorydd Johnson yngl?n â buddsoddiadau’r Cyngor gydag awdurdodau eraill, ac fe’i hysbyswyd fod y dull gweithredu presennol yn cynnwys defnyddio mwy o gyllid o Farchnadoedd Arian, lle’r oedd modd cael mynediad at gyllid yn syth er mwyn rheoli risgiau hylifedd.

 

Cynigodd y Cynghorydd Dunbobbin gefnogi’r argymhellion, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Woolley.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi Adroddiad Blynyddol drafft 2018/19 ar Reoli’r Trysorlys, heb ddod ag unrhyw faterion at sylw'r Cabinet ar 24 Medi 2019; a

 

(b)       Nodi’r wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â Rheoli’r Trysorlys yn Chwarter 1 2019/20.