Mater - penderfyniadau
Review of Political Balance
23/08/2019 - Review of Political Balance
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad i alluogi’r Cyngor i adolygu’r cydbwysedd gwleidyddol yn dilyn ffurfio gr?p gwleidyddol newydd. Dywedodd fod angen i’r Cyngor o dan Reolau Cydbwysedd Gwleidyddol yn Neddf Llywodraeth leol a Thai 1989 a Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990 (fel y’i diwygiwyd) adolygu cyfrifiadau cydbwysedd gwleidyddol y Cyngor yn dilyn ffurfio Gr?p Annibynnol Sir y Fflint ar 17 Mai 2019 gan bedwar Aelod o’r Gr?p Annibynnol Newydd, ac un Aelod yn newid gr?p gwleidyddol ar 5 Mehefin 2019.
Adroddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) ar gyfrifo’r cydbwysedd gwleidyddol a phenderfynu ar nifer cywir y seddau i Grwpiau, fel y manylir yn yr adroddiad, ac y dangosir yn atodiad A.
PENDERFYNWYD:
(a) Dyrannu seddau ar Bwyllgorau yn unol â’r cydbwysedd gwleidyddol a ddangosir yn Atodiad A; a
(b) Bod gwybodaeth am unrhyw newidiadau i enwebeion ar gyfer llefydd ar Bwyllgorau’n cael ei rhoi i’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd mor fuan â phosibl.