Mater - penderfyniadau

Welsh Language Annual Monitoring Report 2018/19

19/12/2019 - Welsh Language Annual Monitoring Report 2018/19

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad a oedd yn darparu trosolwg o’r cynnydd a wnaed i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, ac a oedd yn nodi meysydd i’w gwella.

 

                        Esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod Adroddiad Blynyddol y Gymraeg yn darparu cyfle i nodi’r hyn yr oedd y Cyngor wedi’i wneud i gyflawni’r Safonau ac i arddangos enghreifftiau o arfer da, gyda rhai meysydd o gyflawniadau rhagorol yn cael eu disgrifio yn yr adroddiad.

 

                        Er bod meysydd cynnydd cadarnhaol, roedd materion yn parhau fel meysydd i’w gwella a ddisgrifiwyd yn yr adroddiad hefyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Y gallai’r Cabinet fod wedi’u sicrhau bod cynnydd wedi’i wneud yn ystod y flwyddyn i gyflawni dyletswyddau statudol y Cyngor;

 

(b)       I nodi meysydd i’w gwella ac i gynnwys adroddiad canol blwyddyn ar gynnydd yn y Blaenraglen Waith;

 

(c)        I gymeradwyo cyhoeddi’r adroddiad ar wefan y Cyngor; a

 

(d)       Bod Adroddiad Blynyddol y Gymraeg yn cael ei gynnwys ar Flaenraglen Waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.