Mater - penderfyniadau
Council Plan 2019/20
07/08/2019 - Council Plan 2019/20
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts Gynllun y Cyngor – Rhan 1 sef egwyddorion arweiniol gweddill cyfnod y Cyngor. Diolchodd i’r holl swyddogion fu’n ymwneud â chynhyrchu'r Cynllun.
Eglurodd y Prif Weithredwr bod y Cynllun yn cael ei adrodd i’r Cyngor Sir bob mis Mehefin er mwyn ei fabwysiadu – mae’n gynllun pum mlynedd y mae'n rhaid ei adolygu'n flynyddol.
Roedd Gweithdai wedi eu cynnal i Aelodau ac roedd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol wedi rhoi adborth ar strwythur, fformat a chynnwys y Cynllun drafft. Roedd y prif ganlyniadau o weithdai’r Aelodau wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad. Roedd awgrymiadau eraill mwy penodol wedi eu gwneud er mwyn hysbysu cynnwys y Cynllun ac o gytuno arnynt mewn gweithdai neu drafodaethau, roeddynt wedi eu cynnwys yn y Cynllun.
Eglurodd y Swyddog Gweithredol Busnes Corfforaethol a Chyfathrebu bod seithfed thema newydd wedi ei ychwanegu at y Cynllun - 'Cyngor Diogel a Glân’.
Cyhoeddwyd Cynllun y Cyngor mewn dwy ddogfen. Mae rhan un yn gosod y bwriad. Byddai rhan dau yn gosod y mesuryddion perfformiad, y targedau a’r cerrig milltir y byddai cyflawniadau yn cael eu mesur a’u gwerthuso'n eu herbyn. Byddai rhan dau yn cael ei gyflwyno fis Gorffennaf.
Croesawodd y Cynghorydd Thomas amseru'r gweithdai oedd wedi eu cynnal yn gynharach yn y broses a fformat y ddogfen gan ei bod yn teimlo y byddai’r cyhoedd yn ei chael yn haws ei deall.
Soniodd y Cynghorwyr Banks a Bithell am bwysigrwydd y seithfed thema newydd, a groesawyd. Ar ‘Cyngor Sy’n Gwasanaethu', roedd y Cynghorydd Jones yn falch o weld bod ‘Mesurau i gefnogi a chynnal amgylchedd gweithio diogel a iach’.
PENDERFYNWYD:
Bod Rhan 1 Cynllun y Cyngor 2019/20 yn cael ei argymell i’r Cyngor ei fabwysiadu.