Mater - penderfyniadau

Review of the Corporate Debt Recovery Policy

07/08/2019 - Review of the Corporate Debt Recovery Policy

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad oedd yn ceisio cymeradwyaeth i Bolisi Adennill Dyled Corfforaethol wedi’i adnewyddu, sef dogfen bolisi unigol gyda gweithdrefnau a rheoliadau sefydledig ar gyfer casglu Trethi Cyngor, Trethi Busnes, Mân Ddyledion, Rhenti Tai a gordaliadau Budd-Dal Tai.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) bod y polisi diwygiedig yn ystyried newidiadau sy’n ymwneud yn bennaf â:

 

·         Diwygio trefniadau beilïau a chyflwyno Rheoliadau newydd;

·         Tynnu traddodeb fel sancsiwn am beidio â thalu Treth y Cyngor;

·         Arferion gwaith mewnol diwygiedig i gasglu mân ddyledion yn cynnwys datblygu proses uwchgyfeirio fwy cadarn ar gyfer anfonebau y mae dadlau yn eu cylch;

·         Newidiadau i isafswm y trothwy ariannol wrth gymryd camau Methdaliad; ac

·         Arferion gweithio diwygiedig ar gyfer adfer rhenti tai heb eu talu.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y gallai penderfyniad Llywodraeth Cymru i waredu camau traddodi arwain at golli mwy o Dreth Cyngor yn y dyfodol. Fel cyfiawnhad dros waredu traddodeb, cyfeiriodd Llywodraeth Cymru at  y ffaith bod Llywodraeth yr Alban wedi gwaredu traddodeb ac er hynny, bod cyfraddau casglu yn yr Alban yn dal yn debyg i'r cyfraddau yng Nghymru. Y gyfradd casglu Treth Cyngor cyfartalog yn yr Alban ar gyfer 2017/18 oedd 96.0% o’i gymharu â chyfartaledd o 97.4% ar gyfer Cymru a 98.2% ar gyfer Sir y Fflint.

 

PENDERFYNWYD:

           

            Bod Polisi Adennill Dyled Corfforaethol, yn cynnwys y diwygiadau, yn cael ei ail gymeradwyo ar gyfer casglu Mân Ddyledion, Treth y Cyngor, Ardrethi Busnes, Rhenti Tai a gordaliadau Budd-dal Tai.