Mater - penderfyniadau

Food Service Plan 2019-20 for Flintshire County Council

19/12/2019 - Food Service Plan 2019-20 for Flintshire County Council

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell Gynllun Gwasanaeth Bwyd 2019/20 ar gyfer adroddiad Cyngor Sir y Fflint, a oedd yn darparu trosolwg o’r Gwasanaeth Bwyd.

 

Roedd yn nodi’r nodau a’r amcanion ar gyfer y flwyddyn i ddod a sut y byddent yn cael eu cyflawni.  Roedd y Cynllun hefyd yn cynnwys adolygiad o berfformiad y gwasanaeth yn erbyn Cynllun Gwasanaeth Bwyd 2018/19, a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Pwysleisiodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) y targed newydd ar gyfer 2019/20 sef i gynnal archwiliadau wedi’u targedu ar gyfer Rheoli Alergenau mewn lleoliadau tecawê Risg Ganolig, a groesawyd gan yr Aelodau.

 

PENDERFYNWYD:

           

            Y Byddai Cynllun Gwasanaeth Bwyd 2019/20 yn cael ei gymeradwyo.