Mater - penderfyniadau

ADTRAC Project

15/08/2019 - ADTRAC Project

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad yn rhoi diweddariad ar waith a chanlyniadau’r prosiect ADTRAC. Eglurodd mai prosiect cymdeithasol a ariennir gan Ewrop yw ADTRAC wedi ei dargedu at bobl ifanc 16 - 24 oed sydd wedi eu dosbarthu fel rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET), ac y bydd yn parhau tan fis Hydref 2020.  Roedd y prosiect wedi ei rannu’n 2 is ranbarth (Dwyrain a Gorllewin) ac roedd yr Awdurdod wedi’u partneru gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Y partneriaid allweddol eraill yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yr Adran Gwaith a Phensiynau a Gyrfa Cymru.  Eglurodd y Prif Swyddog gyd-destun a darpariaeth y prosiect a chyfeiriodd at y prif ystyriaethau a nodwyd yn yr adroddiad. Dywedodd bod 158 o bobl ifanc wedi ymgysylltu â'r prosiect ADTRAC hyd yma a bod 14 arall yn aros i wneud hynny.

 

Mynegodd y Cynghorydd Patrick Heesom bryderon yngl?n â chyfleoedd i bobl ifanc 15-25 ym mhob rhan o'r wlad gael mynediad at gyllid drwy’r prosiect ADTRAC. Mewn ymateb i sylwadau’r Cynghorydd Heesom yngl?n ag argaeledd cyllid cyfeiriodd y Prif Swyddog at feini prawf y prosiect a dywedodd y byddai’n fodlon hwyluso cyfarfod rhwng y Cynghorydd Heesom a Phennaeth y Gwasanaeth Cynhwysiant i drafod y materion a godwyd mewn mwy o fanylder.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cydnabod pwysigrwydd a gwerth y gwaith ac effaith y gwasanaeth ADTRAC.