Mater - penderfyniadau

Improvements to the B5129 between the Denbighshire and Chester West and Cheshire County Council Borders in order to improve bus journey times

28/06/2019 - Improvements to the B5129 between the Denbighshire and Chester West and Cheshire County Council Borders in order to improve bus journey times

            Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad a oedd yn esbonio bod y Cyngor ar hyn o bryd yn cyflwyno elfennau amrywiol Strategaeth Trafnidiaeth Integredig Sir y Fflint, a oedd yn cefnogi Prosiect Metro Gogledd Cymru Llywodraeth Cymru (LlC). 

 

Roedd y prosiect yn cynnwys gwaith i wella amseroedd teithio bysiau ar hyd y B548/B5129, a oedd yn llwybr bysiau allweddol drwy'r sir, gan gysylltu Sir Ddinbych a Gorllewin Swydd Gaer a Chaer.  Roedd nifer o welliannau wedi'u cynllunio yn rhan o'r prosiect, a oedd yn cynnwys mesurau i roi'r flaenoriaeth i fysiau wrth gyffyrdd allweddol a chanddynt oleuadau traffig. 

 

Roedd proses wedi dod i ben yn ddiweddar i ymgynghori â'r cyhoedd ynghylch y cynnig i adeiladu lonydd bws a beic amlddefnydd ar hyd darn o'r B5129 yng Nglannau Dyfrdwy, a oedd yn rhan o'r prosiect cyffredinol. Yn rhan o'r gwaith paratoi, roedd astudiaethau modelu traffig wedi cael eu cwblhau a oedd yn dangos gostyngiad sylweddol o hyd at 8 munud mewn amseroedd teithio bws i'r naill gyfeiriad a'r llall ar amseroedd brig, heb amharu rhyw lawer ar amseroedd teithio presennol i geir ar hyd y ffordd honno.

 

Byddai'r cynllun yn achosi mwy o dagfeydd yn yr ardal wrth ei gyflawni, ond bydd ai'r manteision hirdymor o gymorth i sicrhau dyfodol trafnidiaeth gyhoeddus yn Sir y Fflint ac yn lleihau'r ciwiau o amgylch Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.

 

Roedd y Cynghorydd Jones yn croesawu'r adroddiad a'r gwelliannau a oedd wedi'u cynllunio, y bu hir aros amdanynt. Dywedodd hefyd y dylid ymestyn y cynlluniau hyd at Airbus ym Mrychdyn. Cytunai'r Cynghorydd Butler a dywedodd ei fod yn hollbwysig er mwyn sicrhau cyfleoedd cyflogaeth a gwella llif y traffig.

 

            PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo defnyddio cyllid Grant Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru i adeiladu'r lonydd bws a beic amlddefnydd arfaethedig ar y B5129 rhwng Lôn Shotton a Queensferry.