Mater - penderfyniadau
Medium Term Financial Strategy (MTFS) Forecast Update
10/06/2019 - Medium Term Financial Strategy (MTFS) Forecast Update
Cyflwynodd y Prif Weithredwr ddiweddariad ar ragolygon Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) ar gyfer 2020/21-2022/23 cyn cael ei ystyried gan y Cabinet. Roedd cyflwyniad ar y cyd gyda'r Rheolwr Cyllid Corfforaethol yn cynnwys y canlynol:
· Rhagolwg ariannol ym mis Chwefror 2019.
· Adolygu’r pwysau
o Tâl/y gweithlu
o Gofynion Gofal Cymdeithasol
o Pwysau Addysg
o Pwysau ariannol corfforaethol
o Pwysau eraill – wedi’u diweddaru a rhai newydd
o Risgiau
· Camau Nesaf
· Amserlen
Ers yr adroddiad i'r Cyngor Sir ym mis Chwefror, mae effaith y pwysau presennol a adolygwyd, pwysau newydd a rhai sydd yn codi, a’r defnydd ychwanegol o gronfeydd wrth gefn yn y cam cyllideb, wedi cynyddu'r bwlch cyllideb a ragwelir ar gyfer 2020/21 i £13.320m. Roedd nifer o bwysau gan gynnwys tybiaethau ar dâl athrawon, a buddsoddiad yng Nghartref Preswyl Marleyfield a gofal ychwanegol Treffynnon a fyddai’n helpu i fodloni galwadau’r gwasanaeth a gosod yn erbyn pwysau ychwanegol. Roedd yr effaith cychwynnol amcangyfrif Deddf Tribiwnlys Addysg ac Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2018 yn bwysau newydd gyda goblygiadau cost uchel i bob cyngor.
Dywedodd y Prif Weithredwr bod y mwyafrif uchel o fwlch yn y gyllideb ond yn cael ei ariannu gan y diwygiad y polisi cenedlaethol. Roedd safbwyntiau’r Pwyllgor a’r Cabinet yn helpu’r gr?p trawbleidiol i weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru. Roedd yr achos ar sail tystiolaeth am gyllid cenedlaetholi cynyddol yn cynnwys tri bloc:
1. Diogelu chwyddiant yn erbyn costau craidd e.e. tâl a phensiwn;
2. Pwysau difrifol ar y gwasanaeth e.e. Lleoliadau y tu allan o'r Sir a Phlant Dan Ofal; a
3. Cyllid llawn i ddeddfwriaeth newydd e.e. Anghenion Dysgu Ychwanegol
Amlygodd y Cynghorydd Roberts y pwysigrwydd bod y gr?p trawsbleidiol yn gweithio gyda’i gilydd i lunio ymateb i’r Gweinidog dros Lywodraeth Leol gan gynnwys yr angen i ddarparu cyllid ar gyfer dyfarniadau tâl cenedlaethol.
Yn dilyn cwestiwn gan y Cynghorydd McGuill, eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod dyraniadau heb eu defnyddio wedi cael eu rhoi yn ôl yn y cronfeydd wrth gefn i gynnal lefelau call, ond mae rhai risgiau wedi bod yn fwy na'r swm o gyllideb sydd ar gael. Atgoffodd yr Aelodau bod y cronfeydd wrth gefn ond yn cael eu defnyddio ar sail un tro.
Dywedodd y Cynghorydd Axworthy ei fod yn cefnogi adolygiad o’r polisi cyllid cenedlaethol. Awgrymodd bod Comisiwn 2016 ar gyllid llywodraeth leol yng Nghymru – yr oedd Sir y Fflint wedi bod yn brif cyfrannwr – yn cael ei adolygu eto a’i deilwra ar gyfer perthnasedd ar y cam hwn i gefnogi’r achos i Lywodraeth Cymru. Dywedodd y Prif Weithredwr bod diffyg cynnydd ar argymhellion yr adroddiad a chadarnhaodd bod y sylwadau ar y fformiwla cyllid o fewn y cylch gorchwyl ar gyfer y gweithgor trawsbleidiol. Cytunodd y bydd yr adroddiad yn cael ei ddosbarthu i holl Aelodau gan ei fod yn cael ei gynnwys yn rhestr ddarllen ar gyfer y gweithgor.
Dywedodd y Cynghorydd Heesom bod angen mecanwaith i sicrhau bod y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol yn fodlon gyda gwariant y portffolio. Gan groesawu ymglymiad yr Aelod ar y gyllideb, dywedodd y Cynghorydd Roberts bod y mwyafrif o wariant y tu allan i reolaeth y Cyngor gan ei fod yn cael i ddyrannu'n uniongyrchol i gefnogi ysgolion, gofal cymdeithasol ayyb. Dywedodd bod y cynnydd yn Nhreth y Cyngor yn 2019/20 wedi bod yn benderfyniad anodd gan yr Aelodau, er bod disgwyliad gan Lywodraeth Cymru am gynnydd 6.5% ar draws Cymru, a gobeithiodd na fydd y Cyngor yn cael eu rhoi mewn sefyllfa tebyg eto. Y ffordd ymlaen oedd i weithio gyda’n gilydd drwy gr?p trawsbleidiol a gyda chynghorau eraill i wneud achos cyllid cyn y cam gosod cyllideb.
Dywedodd y Prif Weithredwr er gwaethaf cefnogaeth y gr?p trawsbleidiol, nid oedd cynlluniau i adolygu'r broses cyllideb a oedd wedi cael adborth cadarnhaol gan Aelodau dros y blynyddoedd. Ailadroddodd y cyngor a roddwyd drwy’r broses yn 2018/19, nad oedd opsiynau diogel pellach ar ôl ar gyfer lleihau costau gwasanaeth o raddfa. Roedd o swyddogion yn cael eu halinio’n glir i’r Pwyllgorau a oedd yn penderfynu ar eu llwyth gwaith.
Mewn ymateb i’r sylwadau pellach, dywedodd y Prif Weithredwr er bod ychydig o lwyddiant ar grantiau penodol, bod yr achos yn parhau i rai i gael ei gynnwys yn y Setliad. Darparodd eglurhad ar anghysondeb cludiant a gyfeiriwyd ato yn y cyflwyniad.
Roedd y Cynghorydd Woolley yn cofio wrth weithio gyda’r Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn y blynyddoedd blaenorol i wneud cais bod Llywodraeth Cymru yn ystyried y byddai cyfran o’r cyllid yn cael ei ddal yn ganolog, a beth oedd yn cael ei ddyrannu orau yn rhanbarthol a lleol, a bod hyn dal i barhau. Dywedodd bod y pryderon a godwyd gan yr Awdurdod wedi cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru gan Gymdeithas Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ers 2008, ond heb cael eu hymdrin, a bod cynnydd cenedlaethol o ran datrysiad yn anfoddhaol.
Wrth gydnabod gwerth Gwasanaeth Iechyd Gwladol, dywedodd y Cynghorydd Roberts am y cyswllt gyda gwasanaethau gofal cymdeithasol a dylid rhoi blaenoriaeth i gyllid cenedlaethol.
Croesawodd y Cynghorydd Johnson y trosolwg manwl o’r rhagolygon ar gyfer 2020/21 a rhagolygon lefel uchel hyd at 2022/23, yn gofyn a ellir rhannu mwy o fanylion ar y rhagolwg tair blynedd gyda'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu i alluogi Aelodau weld lle mae pethau yn mynd. Cytunodd y Swyddogion a rhoddwyd drosolwg byr o ddull i ddatblygu rhagolygon a oedd yn amlygu gan fod y pwysau yn newid drwy gydol y flwyddyn.
Darparodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol gadarnhad i’r Cynghorydd Bateman ar barcio arfaethedig a phwysau gorfodi ar sail defnydd presennol.
Anogodd y Cynghorydd McGuill i'r swyddogion parhau i roi gwahoddiad i Aelodau'r Cynulliad i gyfarfod â’r Cyngor fel y gallent gael gwell ddealltwriaeth o effaith penderfyniadau Llywodraeth Cymru ar gyllidebau llywodraeth leol. Cefnogodd y Cynghorydd Hughes ei sylwadau.
Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd sicrwydd bod ymdrechion cyfredol yn parhau. Gofynnwyd i'r Aelodau i wneud eu gorau i annog Aelodau'r Cynulliad i dderbyn y cynnig.
Yn dilyn ei sylwadau cynharach, gofynnodd y Cynghorydd Heesom am ddull y Cyngor i reoli gwariant ar gam cynharach yn y proses cyllideb. Mewn ymateb, atgoffodd bod y chwe Pwyllgor Trosolwg a Chraffu wedi dod i gasgliad yn ffurfiol, mewn cytundeb â chyngor y swyddog, nad oedd unrhyw opsiynau diogel wedi'u nodi. Roedd y cynnydd o 15.2% posibl yn Nhreth y Cyngor a nodwyd ar gam cynharach wedi ei leihau'n amlwg o ganlyniad i Setliad Terfynol gwell.
Cynigodd y Cynghorydd Woolley yr argymhellion, a chafodd eu heilio gan y Cynghorydd Hughes.
Bydd crynodeb o'r pwyntiau a godwyd yn cael eu hadrodd i'r Cabinet
PENDERFYNWYD:
Bod y cyflwyniad yn cael ei nodi a bod y sylwadau yn cael eu cyfeirio at y Cabinet.